facebook-pixel

Brechdan stêc Cig Eidion Cymru Shawarma Simon Turner gyda dip iogwrt

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 35 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • 1 stêc llygad yr asen neu frisged Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 rhôl brioche
  • 1 winwnsyn, wedi ei sleisio ar ei hyd
  • 1 pupur gwyrdd, yr hadau wedi eu tynnu ac wedi ei dduo
  • Sesnin Cebabs Libanaidd Shawarma Angus & Oink neu gwnewch un eich hun (cynhwysion isod)
  • Sesnin Menyn Garlleg Angus & Oink
  • 1 ewin garlleg
  • 1 llwy de pupur du mâl
  • Caws Cheddar Cymreig neu Gruyère
  • Menyn i daenu

Ar gyfer y cymysgedd Shawarma cartref:

  • 2 lwy fwrdd paprica melys
  • 1 llwy fwrdd pupur Jamaica
  • 2 lwy de cwmin
  • 2 lwy de tyrmerig
  • 1 llwy de sinamon
  • 1 llwy de powdr garlleg
  • 1 llwy de powdr winwns
  • ½ llwy de sinsir mâl
  • ½ llwy de pupur Aleppo neu haenau pupur poeth (dewisol)

Ar gyfer y dip iogwrt:

  • 1 winwnsyn mawr coch
  • Olew llysiau
  • Halen môr Cymreig a phupur du wedi’i falu’n ffres
  • 1 cwpan iogwrt plaen
  • 1 ewin garlleg, wedi ei ratio neu ei dorri’n fân iawn
  • 1 llwy fwrdd cilantro wedi ei dorri’n fân neu 1½ llwy de mintys ffres wedi ei dorri, neu gyfuniad o’r ddau
  • ¼ llwy de hadau cwmin wedi eu tostio a’u malu
  • ½ llwy de hadau mwstard

Dull

  1. Coginiwch y stêc at eich dant a’i gadael i orffwys am 15 munud.
  2. Tra bod y stêc yn gorffwys, ffriwch y winwnsyn sydd wedi ei sleisio ar ei hyd fel ei fod yn coginio’n braf, fel llinyn a bron yn grimp. Ychwanegwch y pupur gwyrdd sydd wedi ei dduo a’i dro-ffrio am funud neu ddau. Cyngor – dwi’n duo’r pupur ar y barbeciw.
  3. Yna ychwanegwch lond llwy fwrdd o Sesnin Cebabs Libanaidd Shawarma Angus & Oink (neu gwnewch un eich hun) a’i adael i hisian fel fajita.
  4. Nawr ychwanegwch y sleisys blasus o stêc sydd wedi gorffwys, eu cymysgu’n sydyn a’u twymo – dyna’r llenwad.
  5. Nesaf, tostiwch dop y rhôl brioche, yna trowch y rhôl drosodd ac ychwanegu cymysgedd menyn garlleg Angus & Oink, neu fenyn hallt Cymreig, a’i thostio.
  6. Ychwanegwch Cheddar Cymreig wedi ei ratio neu gaws o’ch dewis, mae Gruyère yn wych i’w doddi o dan gril.
  7. Nawr rhowch y stêc, winwns a phupur yn y rhôl brioche gyda’r dip iogwrt ar yr ochr a mwynhewch!

I wneud y dip iogwrt:

  1. Chwisgiwch yr iogwrt, garlleg, cilantro neu fintys a’r cwmin mewn powlen fach.
  2. Mewn padell dros wres canolig, twymwch lond dwy lwy de o olew llysiau. Pan fo’r olew yn boeth, ychwanegwch yr hadau mwstard.
  3. Coginiwch hwn tan fod yr hadau mwstard yn popian ac yn arogli’n hyfryd – munud ar y mwyaf. Arllwyswch yr olew poeth a’r hadau mwstard dros y iogwrt a’i gymysgu. Cymysgwch y winwnsyn wedi ei grilio i mewn yn ysgafn ac ychwanegwch halen at y raita yn ogystal â llond llwy de o gwmin mâl.
Share This