Cig Oen Cymru rhost gydag orzo ac olewydd (Groegaidd) gan John Torode

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 1 rag Cig Oen Cymru PGI, 8 asgwrn
  • Pupur a halen
  • 100g orzo
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n giwbiau mân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 2 courgette, wedi eu torri’n giwbiau mân
  • 20ml olew olewydd
  • Pupur a halen
  • 1 llwy de paprica
  • 1 tun tomatos mân
  • 50g olewydd gwyrdd, heb gerrig
  • 220ml dŵr

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Trimiwch y rag cig oen yn dda ond gadewch ychydig o fraster arno. Mae angen cael gwared ar y darn mawr o ewyn ar y gwaelod.
  3. Crafwch fraster y cig oen yr holl ffordd i’r cnawd ac yna sesnwch yr holl beth gydag ychydig o halen a’i roi mewn sosban oer gyda’r braster yn wynebu i lawr.
  4. Trowch y gwres ymlaen yn isel a thoddi’r braster yn araf am 10 munud.
  5. Trowch y rag drosodd a selio’r cig a’i sesno â phupur
  6. Rhowch y rag ar ben yr orzo a’i goginio am 25 munud.

Ar gyfer yr orzo

  1. Mewn dysgl caserol fawr meddalwch y winwnsyn gyda’r garlleg. Ychwanegwch y courgettes a’u sesno’n dda. Ychwanegwch y paprica a’i gymysgu a’i goginio am 2 funud nes ei fod yn bersawrus.
  2. Ychwanegwch yr orzo a’i gymysgu fel bod y cyfan yn gymysg. Ychwanegwch y tun tomatos a’r olewydd ynghyd â’r dŵr a chymysgu.
  3. Mudferwch a’i goginio am 10 munud ar y stof.
  4. Rhowch y rag cig oen wedi ei frownio (fel uchod) ar ben yr orzo a’i bobi am 25 munud.
  5. Gweinwch gydag ychydig o tzatiki.
Share This