facebook-pixel

Unigryw i Gymru. Blas o’n gwlad.

Naturiol, hyblyg ac yn llawn blas sy’n deillio o ganrifoedd o arferion ffermio traddodiadol, dyma’r hyn sydd mor arbennig am gig oen a chig eidion.

Chi sy’n creu eich swper … felly beth sydd i swper heno?

Caiff Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI eu cynhyrchu mewn tirweddau prydferth a digyfnewid, gan ddefnyddio cymysgedd o arferion ffermio cyfoes a thraddodiadol, ac mae’n amhosib ailgreu eu blas yn unrhyw le arall yn y byd.

Gan nad ydyn ni’n gallu mynd allan i fwyta ar hyn o bryd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhai o gogyddion gorau Cymru i ddod â’r profiad o fwyta mewn bwyty yn nes at adref. Caiff ein tudalen ei diweddaru’n gyson gyda fideos newydd ac unigryw o ryseitiau yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i’r cogyddion rannu eu profiad helaeth i’ch helpu chi goginio prydau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon bwyty yn eich cartref.

Sut i goginio brechdan stêc epig

Yn ystod y cyfnod clo diweddar, fe wnaeth brenin y barbeciw Chris Roberts ein hannog ni i’n ceginau i greu ‘brechdan i’r brenin’ a oedd yn deilwng o ennill ein gwobr anhygoel; crochan tân barbeciw moethus a hamper Cig Eidion Cymru PGI o’r radd flaenaf.

Yn anffodus, mae’r gystadleuaeth bellach wedi cau, ond peidiwch â phoeni, gallwch wylio’r fideo hwn i weld sut y gwnaeth Chris ei frechdan epig ei hun yn ogystal ag ail-greu brechdan ein henillydd, The Migrating Chef – digon o ysbrydoliaeth stêc i bawb!

Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am fwy o’n cystadleuthau anghygoel

Mae ein cogyddion yn dod â’u bwytai i’ch cartref chi!

Rydyn ni cydweithio â rhai o gogyddion mwyaf adnabyddus Cymru wrth iddyn nhw ddefnyddio eu ffonau clyfar i rannu eu brwdfrydedd dros Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae ein cogyddion yn rhannu eu profiad helaeth gyda chyfres o ryseitiau fideo ac yn datgelu rhai o’u cyfrinachau er mwyn eich ysbrydoli chi i ailgreu eu bwyd o safon bwyty gartref.

BRYAN WEBB

Tyddyn Llan

Cafodd Bryan Webb ei fagu yng Nghaerffili, ac mae wedi treulio 40 mlynedd yn y gegin – o blicio tatws, casglu sbigoglys a golchi llestri yn The Crown at Whitebrook, i greu a rhedeg Tyddyn Llan yn Llandrillo, gogledd Cymru, gyda’i wraig Susan. Mae’n adnabyddus am ddefnyddio cynhwysion safonol o Gymru, yn ogystal â’r cynnyrch tymhorol gorau o bob cwr o wledydd Prydain.

Rysait llawn: Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre”

Rysait llawn: Ffolen Cig Oen Cymru gyda ffa cannellini hufennog

BRYN WILLIAMS

Bryn @ Porth Eirias / Odette’s / Somerset House

Rysait llawn: Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gydag asbaragws, madarch, winwns a garlleg gwyllt

Daw Bryn Williams o Ddinbych, a dysgodd i werthfawrogi bwyd a’i darddiad o oedran ifanc. Mae wedi gweithio yn rhai o geginau gorau Llundain; o dan Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche, ac fel uwch ddirprwy gogydd yn The Orrery am bedair blynedd. Mae Bryn bellach ym Mhorth Eirias, bwyty, caffi a bar glan môr ar arfordir gogledd Cymru. Ef hefyd yw Cogydd Berchennog Odette’s yn Llundain, ers prynu’r safle ym mis Hydref 2008, ac yn ddiweddar agorodd yn Somerset House, ar The Strand.

GARETH WARD

Ynyshir Hall

Rysait llawn: Ffiled Cig Eidion Cymru Tonnau a’r Tir

Mae gan y cogydd Gareth Ward o Durham, sydd â seren Michelin, enw da am fwyd araf, gan gymryd digon o amser a gofal i aeddfedu, piclo, fforio, halltu, cadw a suro ei gynhwysion er mwyn creu bwyd y mae’n ei ddisgrifio fel ‘bwyd Prydeinig amgen’. Mae gwesteion yn cael rhyw 20 o gyrsiau dros gyfnod o bedair awr yn ei ystafell fwyta / cegin agored, sy’n ffinio â Pharc Cenedlaethol Eryri yng nghanolbarth Cymru, fel rhan o brofiad bwyta unigryw Gareth sydd wedi sicrhau fod iddo enw da ar lefel rhyngwladol.

HYWEL GRIFFITH

Beach House

Rysait llawn: Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis

Mae Hywel Griffith yn Gymro Cymraeg o Wynedd, a fireiniodd ei grefft yng Ngholeg Menai ym Mangor ac mewn nifer o fwytai mawreddog Llundain yn ogystal ag Ynyshir ym Machynlleth, a enillodd dri Rosette a seren Michelin yn ystod ei gyfnod yno. Mae Hywel yn frwd dros natur olrheiniadwy, ac mae’n aml yn cael gafael ar ei gynhwysion amrwd ei hun – gan eu casglu, eu dal neu eu saethu. Ers agor ei fwyty llwyddiannus The Beach House yn Abertawe yn 2016, mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Bwyty Gorau Bae Abertawe 2017 a Bwyty AA y Flwyddyn yng Nghymru 2018, Rosette 3AA a Seren Michelin.

LUDO DIEUMEGARD

Harbourmaster Hotel

Rysait llawn: Asen Cig Eidion Cymru wedi ei rostio’n araf gyda sglein soi

Dechreuodd y Llydäwr Ludovic Dieumegard goginio ar ôl penderfynu teithio’r byd, a hynny trwy weithio i asiantaeth arlwyo a chymryd swyddi fan hyn a fan draw, ar yr amod eu bod ymhell oddi cartref. Mae wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Masterchef, The Professionals yn y gorffennol ac mae bellach yn adnabyddus yng Nghymru am ei fwyd sy’n cynnwys elfennau Ffrengig gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol a lleol o safon uchel.

MATT POWELL

Fishing and Foraging Wales

Rysait llawn: Coes las Cig Eidion wedi ei choginio’n araf gyda grawn rhyg bioddynamig

Mae Matt Powell yn cynnig profiad pysgota, fforio a bwyta unigryw ar arfordir prydferth Sir Benfro. Mae’n frwd dros fwyd cynaliadwy, lleol a thymhorol, a gall ei gwsmeriaid ddysgu fforio a physgota mewn ffordd gyfrifol ar hyd un o arfordiroedd harddaf y byd cyn mwynhau gwledd wirioneddol unigryw gan Matt, fydd yn defnyddio’r cynhwysion maen nhw newydd eu fforio. Ef yw’r tywysydd pysgota heli cymwys cyntaf ar gynllun cymhwyster tywys Cyfoeth Naturiol Cymru a Pysgota Gwyllt Cymru (yn wir ef yw’r unig un), ac mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn bwytai â sêr Michelin.

MATT WALDRON

Stackpole Inn

Rysait llawn: Stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda madarch a chaws pob

Bwriodd ei brentisiaeth yng Ngwesty Glan Yr Afon ym Mrynbuga ac yn ddiweddar cafodd ei benodi’n Brif Gogydd y Stackpole Inn yn Sir Benfro. Mae Matt wrth ei fodd yn arddangos yr amrywiaeth o bysgod sydd gan ddyfroedd Cymru i’w cynnig. Mae’n frwd dros natur olrheiniadwy yn y gadwyn fwyd, a defnyddio ei greadigrwydd i droi cynnyrch ffres i mewn i brydau epig.

SAM EVANS and SHAUNA GUINN

Hang Fire Southern Kitchen

Rysait llawn: Mechoui Cig Oen Cymru gyda tagine llysiau

Rhoddodd Samantha Evans a Shauna Guinn y gorau i’w swyddi a theithio i America yn 2012 er mwyn gyrru ar hyd a lled y wlad a dysgu mwy am fwyd barbeciw Americanaidd. Ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, agoron nhw stondin farbeciw arddull taleithiau deheuol America a enillodd Wobr Bwyd Stryd Gorau Gwobrau Bwyd BBC Radio 4 yn 2015. Yna agorodd y ddwy yr Hang Fire Southern Kitchen yn y Barri, bwyty bychan sy’n dibynnu’n llwyr ar gynnyrch ffres, moesegol er mwyn creu bwydydd traddodiadol Louisiana, stêcs wedi eu coginio ar dân pren a barbeciw Americanaidd, y cyfan yn defnyddio y gril Parrilla Archentaidd cyntaf i gael ei adeiladu’n bwrpasol yng Nghymru, yn ogystal â chwrw cartref.

STEPHEN STEVENS

Sosban and The Old Butchers

Rysait llawn: Cig Eidion Wagyu Cymru, tomatos, mayonnaise mefus gwyrdd a siarcol

Magwyd Stephen Stevens ar Ynys Môn, ac yn fuan wedi symud i Lundain cafodd swydd yn gweithio o dan law’r cogydd enwog Marcus Wareing yn ei fwyty, Petrus. Yn dilyn hyn, ar y cyd gyda’i wraig Bethan, penderfynodd agor ei fwyty ei hun – Sosban and The Old Butchers ym Mhorthaethwy – sydd wedi datblygu i fod yn un o’r bwytai gorau yng Nghymru. Mae’r bwyty’n enwog am ei fwydlen ‘syrpreis’ a’i oriau agor cyfyngedig, a daeth yn fwyty cyntaf ym Môn i ennill seren Michelin yn 2016, yn ogystal â chael pedwar rhosed AA a chael ei gynnwys yn 50 Bwyty Gorau y Good Food Guide 2020.

STEPHEN TERRY

The Hardwick

Rysait llawn: Stêcs syrlwyn Cig Eidion Cymru wedi eu ffrio gyda thomatos bach y winwydden wedi eu rhostio, sglodion polenta, berwr a Parmesan

Agorodd Stephen Terry ei fwyty cyntaf yn Llundain gyda Marco Pierre White a’r actor Michael Caine, ble’r enillodd ei seren Michelin gyntaf ac yntau’n 25 oed. Ers hynny mae wedi ennill seren Michelin ym mwyty Eidalaidd The Walnut Tree yn y Fenni, cyn agor ei far/bwyty ei hyn yn y Fenni, The Hardwick, sy’n cael ei redeg ganddo fe, ei wraig Joanna a’i dad-yng-nghyfraith, Derry. Mae wedi darganfod mai un o’r pleserau niferus o fyw yn ne Cymru yw ei fod yn agosach at, ac yn aml yng nghalon, y cynnyrch ffres a blasus mae’n ei gynnwys ar ei fwydlenni. Mae Stephen wrth ei fodd yn coginio pysgod ac mae’n arbenigo mewn bwydydd lleol.

Share This