facebook-pixel

Wagyu Cig Eidion Cymru, tomatos, mayonnaise mefus gwyrdd a siarcol Stephen Stevens

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Wagyu Cymru PGI
    4 tomato mawr, wedi eu torri’n ddarnau a thynnu’r hadau
  • Powdr ansiofi wedi sychu
    Powdr gwymon delysg wedi sychu

1 melynwy
½ llwy de mwstard Dijon

  • ½ llwy de finegr gwin gwyn
  • Olew siarcol neu olew ansiofi
  • Mefus gwyrdd, wedi eu sleisio’n denau
  • Cennin y môr wedi eu fforio mewn dŵr halen neu gennin bach neu gaprau
  • Dail dant y llew
  • Menyn
  • Halen

Ar gyfer y dŵr halen

  • 3ltr dŵr
  • 300g halen môr Maldon
  • 200g siwgr

Dull

  • Er mwyn halltu’r cig eidion a’r cennin, rhoi’r holl gynhwysion mewn i badell a’i thwymo i doddi’r siwgr a’r halen. Gadael y cyfan i oeri ac yna trochi’r cynhwysion yn y dŵr halen er mwyn cwblhau’r broses. Dylid gadael y cig eidion yn y dŵr halen am o leiaf awr cyn coginio. Dylid gadael y cennin mewn dŵr halen am o leiaf wythnos (cafodd y rhai yn y rysáit eu gadael mewn dŵr halen am ddau fis). Fel arall, defnyddio caprau yn lle cennin.
  • Ar gyfer y powdr ansiofi wedi sychu a’r powdr gwymon delysg, rhagdwymo’r popty i 70ºC a’u coginio tan eu bod yn sych ac yn grimp. Pan maen nhw wedi oeri, eu rhoi mewn pestl a mortar a’u malu i mewn i bowdr. Gellir gwneud faint fynnir ac mae’n ddewis amgen gwych yn lle halen.
  • Gan ddefnyddio un ai fflam nwy neu lamp losgi, rhoi tomato ar sgiwer i dduo’r croen. Pan fo’n ddu, ei ollwng i mewn i ddŵr iâ a’i rwbio’n ysgafn i dynnu’r croen. Gwneud yr un fath gyda’r tomatos eraill.
  • Tynnu’r hadau a thorri’r tomatos yn ddarnau, eu rhoi ar hambwrdd ac ychwanegu halen. Eu rhoi o’r neilltu am 10-15 munud. Os yn defnyddio barbeciw, mae angen cadw darnau’r tomatos yn fawr.
  • Ar gyfer y bath dŵr, pecynnu’r cig eidion mewn gwactod a’i goginio am 12 munud ar 62ºC. Neu, ei roi ar y barbeciw am 4 munud bob ochr i selio a llosgi’n braf. Ar ôl ei dynnu oddi ar y barbeciw, ei adael i orffwys am 10 munud.
  • Mewn powlen gymysgu, ychwanegu’r melynwy, mwstard Dijon a finegr a chwisgio. Wrth chwisgio, ychwanegu’r olew siarcol yn ofalus ac yn araf – tan fod y mayonnaise wedi emylsio a thewychu. Unwaith iddo dewychu, ei roi mewn bag peipio yn yr oergell. Neu, gellir defnyddio’r olew o’r ansiofis i greu mayonnaise ansiofi.
  • Sychu’r cennin yn dyner a’u sleisio.
  • I losgi’r tomatos, defnyddio’r fflam nwy neu lamp losgi tan bod yr ymylon yn dechrau llosgi, neu eu rhoi ar y barbeciw i gael blas mwg.
  • Ar ôl 12 munud yn y bath dŵr, rhoi’r cig eidion mewn padell boeth am 4 munud, ei droi o dro i dro tan fod y ddwy ochr wedi carameleiddio. Rhoi menyn drosto a’i adael i orffwys.
  • Sleisio’r mefus gwyrdd yn denau, a rhoi’r powdr gwymon delysg drostynt.
  • Pan fo’r cig eidion wedi gorffwys, rhoi’r tomatos wedi llosgi ar blat ac addurno gyda’r mayonnaise, cennin a chig eidion wedi sleisio. Ychwanegu’r powdr ansiofi.
  • Arllwys suddion y cig eidion dros y dail dant y llew a rhoi’r dail a’r mefus wedi sleisio ar ben y cig eidion. Gorffen trwy roi’r powdr gwymon delysg dros y cyfan.
Share This