facebook-pixel

Mechoui Cig Oen Cymru Morocaidd gyda tagine llysiau gan Hang Fire

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 5 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2-3kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, gyda’r asgwrn
  • 300g shibwns, wedi eu plicio a’u torri’n hanner
  • 50g haenau cnau almon, wedi eu tostio

Ar gyfer y marinâd chermoula:

  • 100g persli crych, heb y coesau
  • 75g coriander ffres
  • 1 llwy de hadau cwmin, wedi eu tostio
  • 1 llwy de hadau ffenigl, wedi eu tostio
  • 200ml olew olewydd
  • 1 ewin garlleg, wedi ei blicio a’i dorri’n fras
  • 30g hadau mintys ffres
  • 3 llwy de paprica melys
  • ¼ llwy de pupur cayenne
  • 1 llwy de pupur du ffres
  • 1 llwy fwrdd halen môr
  • 1 lemon, sudd a chroen

Ar gyfer y tagine llysiau:

  • 4 shibwnsyn, wedi eu plicio a’u torri’n hanner
  • 5 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u torri’n fân
  • 1 foronen fawr, wedi ei phlicio a’i thorri’n fân
  • 2 ffon seleri, wedi eu torri’n giwbiau mân
  • 1 daten fawr, wedi ei phlicio a’i thorri’n giwbiau
  • ½ cenhinen, wedi ei thorri’n fân ac yna ei rinsio
  • 50g rwdins/sweds, wedi eu plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 1 tun o ffacbys, wedi eu draenio a’u rinsio
  • 2 dun o domatos wedi eu torri
  • 1 llwy fwrdd past harissa neu gymysgedd sbeis harissa
  • 1 llwy de coriander mâl
  • 1 llwy de sinamon mâl
  • ½ llwy de tyrmerig mâl
  • Llond llaw o fricyll sych mân
  • 1l stoc llysiau (neu stoc o’ch dewis chi)
  • Croen 2 lemon cadw, wedi eu torri’n giwbiau mân
  • 1 llwy de surop masarn neu fêl
  • ½ llwy de pupur du ffres
  • 1 llwy de halen môr mân, neu fwy os yw at eich dant
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • Sudd 1 lemon
  • llond llaw o ddail persli ffres, wedi eu torri’n fân

Dull

Yn draddodiadol caiff Mechoui ei baratoi drwy rostio oen cyfan, un ai ar gigwain dros dân neu mewn twll yn y ddaear. Yn ddelfrydol mae angen caniatáu 4.5-5 awr i goginio ein fersiwn ni yn araf. Mae’r addasiad hwn o’r clasur o’r dwyrain-canol yn gwneud saws chermoula blasus sy’n gweithio’n dda iawn fel saws dipio os oes rhywfaint dros ben. Yn ddelfrydol mae angen paratoi’r ysgwydd oen 24 awr ymlaen llaw gadewch y cig i fwydo am hyd at 48 awr os ydych chi eisiau blas dyfnach.

 

  1. Dechrau trwy falu’r hadau cwmin a ffenigl i mewn i bowdr trwy ddefnyddio pestl a mortar neu falwr sbeisys. Cymysgu cynhwysion y chermoula mewn blendiwr ac arllwys yr olew i mewn yn araf, gan grafu’r cynhwysion o ochr y bowlen gymysgu yr un pryd. Os oes angen rhagor o olew, mae croeso i chi ychwanegu mwy er mwyn sicrhau bod y chermoula yn creu past trwchus.
  2. Nesaf, gosod eich ysgwydd oen mewn padell. Gyda chyllell ddeugarn, gwneud toriadau bychain dros y darn o gig. Bydd hyn yn helpu’r marinâd i fynd i mewn i’r cig go iawn. Arllwys y chermoula i mewn i bowlen fel ei bod yn haws i chi ei roi dros y cig oen.
  3. Dechrau trwy droi yr ysgwydd oen drosodd, arllwys tua 1/3 o’r marinâd drosti, gan sicrhau ei bod wedi ei gorchuddio’n llwyr. Ei throi’n ôl drosodd ac arllwys gweddill y marinâd drosti. Ei gorchuddio’n llac gyda ffilm cling a’i rhoi’n yr oergell tan eich bod yn barod i goginio.
  4. Y diwrnod canlynol (h.y. 24 awr yn ddiweddarach), tynnu’r ysgwydd oen o’r oergell o leiaf 30-40 munud cyn yr hoffech ei choginio – bydd ei ganiatáu i gyrraedd yn nes at dymheredd yr ystafell yn galluogi’r cig oen i goginio’n fwy cytbwys. Gosod y ffwrn i 180ºC ac aros tan ei bod wedi cyrraedd y tymheredd cywir. Rhoi’r cig oen mewn tun rhostio. Gorchuddio’r shibwns gydag unrhyw farinâd sydd dros ben o’r badell fwydo. Eu gosod o gwmpas y cig oen. Gorchuddio’r tun rhostio mewn ffoil, gan sicrhau eich bod yn selio’r ymylon yn dynn o gwmpas y tun rhostio.
  5. Edrych ar y cig oen ar ôl 4-4.5 awr i weld a yw’r cig yn ddigon brau i dynnu rhwyfaint ohono i ffwrdd gyda gefel goginio. Yn y pen draw, rydych chi’n trio sicrhau y gallwch chi dynnu’r cig i ffwrdd yn hawdd gyda dwy fforc. Os yw’n hawdd ei dynnu, mae angen brownio’r top a chreu crwst hyfryd; os ddim, mae angen ailselio’r ffoil a choginio am 30-40 munud arall. Os yw’r cig oen yn barod, tynnu’r ffoil (ei roi o’r neilltu) a’i adael i goginio am 15-20 munud arall.
  6. Tynnu’r shibwns yn ofalus a’u rhoi o’r neilltu mewn powlen. Gadael y cig oen i orffwys am 15 munud cyn dechrau ei rwygo, ond ailosod y ffoil gwreiddiol yn llac ar ei ben fel ei fod yn aros yn boeth. Tynnu’r cig oen i ffwrdd mewn talpiau, gan greu cymysgedd o ddarnau mawr a darnau wedi eu rhwygo, a’u cymysgu gyda’r suddion coginio. Eu gosod mewn padell neu ddysgl gweini. Ychwanegu’r shibwns meddal, melys, sydd wedi eu coginio ar y top a rhoi’r haenau o gnau almon wedi eu tostio ar ei ben.
  7. I wneud y tagine, twymo olew olewydd dros wres canolig mewn sosban fawr drom, ffwrn agored neu tagine traddodiadol tan ei fod yn disgleirio. Ychwanegu shibwns a garlleg a chynyddu’r gwres i ganolig-uchel. Ffrio’n ysgafn gyda phinsiad o halen a ychwanegu’r holl sbeisys, gan gynnwys harissa. Cymysgu a chyfuno. Coginio am 10 munud ar wres canolig-uchel, a’i gymysgu’n aml. Ychwanegu’r tomatos, surop, bricyll, a stoc. Ychwanegu ychydig bach o halen eto. Ei orchuddio a’i goginio am ryw 35-40 munud mewn ffwrn ar 180ºC.
  8. I orffen, cymysgu sudd lemon a phersli ffres i mewn. Ei flasu ac ychwanegu rhagor o halen neu harissa at eich dant. Ei drosglwyddo i bowlenni a gweini bara croyw poeth, labneh a’r cig oen Mechoui. Mwynhewch!
Share This