facebook-pixel

Ffolen Cig Oen Cymru gyda ffa cannellini hufennog Bryan Webb

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 Ffolen Cig Oen Cymru PGI, wedi eu trimio
  • 2 lwy fwrdd olew blodau’r haul
  • 150g ffa cannellini sych NEU 1 tun o ffa wedi coginio
  • Bouquet garni (clwstwr o berlysiau wedi eu clymu) o bersli, rhosmari a theim os ydych chi’n coginio’r ffa
  • 2 shibwnsyn
  • 2 ewin garlleg
  • 40g menyn heb halen
  • 150ml hufen dwbl
  • Ambell sbrigyn o daragon
  • Gwydraid o win gwyn
  • Pupur a halen
  • 100ml stoc cyw iâr

Dull

  1. Os yn defnyddio ffa sych, dilyn cyfarwyddiadau’r pecyn a’u coginio gyda bouquet garni cartref o bersli, rhosmari a theim.
  2. Rhagdwymo’r ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 7.
  3. Twymo olew blodau’r haul mewn padell ffrio y gellir ei rhoi mewn ffwrn a rhoi’r ffolenni i mewn i’r olew poeth gyda’r braster yn wynebu i lawr. Eu coginio am ryw 2 funud, cyn eu troi, ychwanegu pupur a halen a choginio am funud arall, yna eu rhoi yn y ffwrn am 8 – 10 munud.
  4. Yn y cyfamser, plicio a thorri’r shibwns a’r garlleg yn fân. Toddi’r menyn mewn sosban a choginio’r shibwns a’r garlleg yn ysgafn gyda phinsiad o halen tan eu bod yn feddal.
  5. Draenio’r ffa a’u hychwanegu at y shibwns a’r garlleg cyn arllwys yr hufen dros y cyfan.
  6. Torri’r dail taragon yn ofalus a’u hychwanegu at y ffa hufennog, cyn ychwanegu pupur a halen at eich dant. Mudferwsi ar dymheredd isel tan ei fod ychydig yn drwchus.
  7. Edrych ar y ffolenni, a phan maen nhw wedi coginio, eu rhoi ar blat cynnes i orffwys yn y ffwrn am o leiaf 10 munud (gan sicrhau bod y ffwrn wedi diffodd fel nad yw’r cig yn coginio).
  8. Draenio’r braster o’r badell ffrio a’i rhoi’n ôl ar wres canolig. Ychwanegu’r gwin gwyn ac ambell lwyaid o stoc cyw iâr. Pan mae’n coginio, cymysgu a chrafu’r suddion o ochr y badell a’i dewhau tan ei fod ychydig yn drwchus.
  9. Unwaith i’r ffa dewychu, torri’r ffolenni a’u rhoi ar y plat. Arllwys y suddion o’r badell ffrio dros y cig oen a’r ffa.
Share This