facebook-pixel

Piadina mozzarella Cig Oen Cymru wedi’i rwygo gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 45 mun
  • Amser coginio 3 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

Ar gyfer y cig oen:

  • Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, heb yr asgwrn, ac unrhyw fraster gormodol wedi’i dorri (tua 1.5kg)
  • 3 bylb garlleg, pob un wedi’i dorri’n hanner
  • 30ml olew olewydd ifanc iawn
  • 250ml Pinot Grigio
  • 500ml stoc llysiau
  • 4 tsili
  • 4 pupryn gwyrdd, wedi’u torri’n fras
  • 4 pupryn coch, wedi’u torri’n fras
  • 750g o domatos tun wedi’u plicio, heb y sudd
  • 40g powdr paprica sbeislyd
  • 20ml finegr Sauvignon
  • Ambell sbrigyn o rosmari
  • Pinsiad o halen môr

Ar gyfer y piadina:

  • 500g blawd ‘00’
  • 170ml dŵr
  • 125g lard
  • 15g halen mân
  • 1½ llwy de soda pobi

Ar gyfer y ciwcymbrau picl:

  • 600g ciwcymbr
  • 100g finegr Chardonnay
  • 25g siwgr brown
  • ½ clwstwr dil
  • 10g sinsir ffres
  • 25g halen

I addurno:

  • 250g mozzarella

Dull

  1. Cynheswch y popty i 155˚C / 135˚C ffan / Nwy 2.
  2. Sesnwch y cig oen. Cynheswch yr olew olewydd mewn dysgl caserol/padell ffrio fawr a seriwch y cig oen gyda’r bylbiau garlleg wedi’u haneru. Arllwyswch y gwin a gadewch iddo anweddu. Yna ychwanegwch y rhosmari, y paprica, y puprynnau a’r tsili. Ychwanegwch y tomatos, y stoc a sesnwch gyda halen. Coginiwch, heb ei orchuddio, am tua 2 awr 30 munud i 3 awr.
  3. Yn y cyfamser gwnewch y ciwcymbrau picl. Sleisiwch y ciwcymbrau’n denau. Mewn dysgl fas, ychwanegwch halen, siwgr a dil. Sleisiwch y sinsir a’i ychwanegu at y ddysgl. Gosodwch y tafelli o giwcymbr ar ei ben, ychwanegu mwy o halen a dil ac arllwyswch y finegr drosto. Gadewch i farinadu am tua 1 awr.
  4. Unwaith y bydd y cig oen wedi coginio ac oeri, tynnwch ef o’r badell. Tynnwch yr holl gnawd o’r asgwrn a’i rwygo â llaw.
  5. Trosglwyddwch yr holl saws o’r badell i mewn i mouli neu gymysgydd (bydd angen i chi wasgu’r ewinedd garlleg allan o’r bylbiau). Cymysgwch y saws mewn cymysgydd nes ei fod yn llyfn. Addaswch gyda halen os oes angen, a’r finegr. Rhowch o’r neilltu.
  6. I wneud y piadina, cymysgwch y blawd, halen, lard a soda pobi mewn powlen. Dechreuwch ychwanegu’r dŵr a thylino â llaw. Wrth gyfuno, trosglwyddwch i fwrdd a pharhau i weithio nes ei fod yn llyfn. Lapiwch mewn haenen lynu a’i adael i orffwys am tua 30 munud.
  7. Rholiwch y toes yn siâp selsig a’i dorri’n 6 rhan gyfartal. Rholiwch bob darn yn bêl, gorchuddiwch â haenen lynu a gorffwys am 30 munud arall. Rhowch ychydig o flawd ar y bwrdd gwaith a rholiwch y peli allan gyda rholbren i drwch o tua 2-3mm.
  8. Cynheswch badell 22cm nad yw’n glynu dros wres canolig. Coginiwch bob disg o does am tua 2 funud bob ochr, gan eu cylchdroi’n gyson i ganiatáu iddynt goginio’n wastad.
  9. Gosodwch y piadina ar arwyneb gwaith neu fwrdd a thaenu rhywfaint o’r saws drostynt. Rhowch y cig oen ar hanner pob piadina, ychwanegwch ychydig o mozzarella wedi’i sleisio a chiwcymbr picl. Plygwch y piadina yn eu hanner, a hanner eto a’u rhoi yn y popty ar 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3 am 3 munud neu nes eu bod yn grensiog. Gweinwch gyda’r saws.
Share This