facebook-pixel

Siancen Cig Oen Cymru wedi’i brwysio gyda risotto gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

Ar gyfer y siancod:

  • 6 siancen Cig Oen Cymru PGI
  • 500g moron, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 500g winwns, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 500g seleri, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i dorri
  • 3 deilen llawryf
  • 600ml gwin coch Valpolicella
  • 150g past tomato
  • 150g tomatos wedi’u plicio (mewn tun)
  • 800ml stoc cig oen
  • 1 clwstwr o fintys
  • Blawd i ysgeintio
  • Olew olewydd

Ar gyfer y risotto:

  • 300g reis carnaroli
  • 50g shibwns, wedi’u torri
  • 150ml gwin gwyn
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 80g menyn
  • 130g caws Grana Padano, wedi’i gratio
  • 1l stoc llysiau neu gyw iâr

Ar gyfer y gremolada:

  • 1 lemwn
  • Ambell sbrigyn o bersli dail gwastad
  • Ambell sbrigyn o rosmari
  • 1 ewin garlleg
  • ½ tsili coch
  • Olew olewydd ifanc iawn

Dull

  1. Cynheswch y popty i 165˚C / 145˚C ffan / Nwy 3 .
  2. Sesnwch y siancod ac ysgeintio’r blawd yn ysgafn drostynt. Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn dysgl caserol/padell ffrio fawr a ffrio’r siancod ar y ddwy ochr nes eu bod yn frown euraid. Tynnwch y cig o’r badell a draeniwch y braster sydd dros ben. Rhowch y siancod o’r neilltu.
  3. Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch y garlleg, dail llawryf, winwns, moron, seleri a’u chwysu am ychydig funudau. Sesnwch gyda phupur du.
  4. Dychwelwch y siancod i’r ddysgl caserol/padell ffrio ac arllwyswch y gwin i mewn. Gadewch i’r gwin anweddu, ychwanegwch y tomatos wedi’u plicio, y past tomato, y stoc cig oen a’r mintys. Coginiwch yn y popty, wedi’i orchuddio, am tua 2 awr.
  5. Pan fydd y cig oen wedi gorffen coginio, gwnewch y risotto. Mewn padell fas, dros wres isel, chwyswch y shibwns yn ysgafn yn y menyn a’r olew olewydd. Cynyddwch y gwres i ganolig/uchel ac ychwanegwch y reis a phinsiad o halen a thostio am tua munud. Arllwyswch y gwin i mewn a gadewch iddo anweddu’n llwyr.
  6. Ychwanegwch y stoc, a ddylai fod yn ferwedig, fesul lletwad. Bob tro y byddwch chi’n ychwanegu’r stoc, dylai gael ei amsugno gan y reis cyn ychwanegu’r lletwad nesaf. Parhewch i ychwanegu’r stoc a’i droi’n rheolaidd nes bod y reis bron wedi’i goginio ond yn dal i fod yn al dente, a byddwch yn ofalus i beidio â gadael gormod o hylif ynddo. (Dylai’r broses gymryd tua 18-20 munud).
  7. Ar gyfer y gremolada: Gratiwch y lemwn, gan osgoi craidd y croen. Torrwch y tsili, persli, rhosmari a garlleg a’u rhoi mewn powlen ynghyd â chroen y lemwn. Llaciwch y cyfan gyda’r olew olewydd.
  8. I orffen y risotto, tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegwch y menyn a’r Grana Padano, gan ei droi’n egnïol nes ei fod yn gyfoethog ac yn hufennog. Addaswch yr halen at eich dant.
  9. I weini, rhowch y risotto ar waelod dysgl weini. Rhowch y siancen cig oen ar ben y risotto a gorffen gyda diferion o’r gremolada.
Share This