facebook-pixel

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i choginio’n araf gan Julius Roberts

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 4 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn (tua 2kg)
  • 2 genhinen
  • 3-4 moronen
  • 2 winwnsyn gwyn
  • 300ml stoc cyw iâr da
  • 1 gwydraid gwin gwyn
  • 1 tun ansiofis (dewisol)
  • 1 pen garlleg
  • Rhosmari
  • Teim
  • Dail llawryf

Dull

  1. Tynnwch yr ysgwydd cig oen allan o’r oergell, sesnwch hi’n dda gyda halen ar y ddwy ochr, a gadewch hi am awr neu ddwy ar gownter y gegin i gynhesu.
  2. Nesaf, browniwch y cig mewn padell ffrio, ar y barbeciw neu o dan y gril, gan ei droi hanner ffordd drwodd i gael rhywfaint o liw ar y ddwy ochr.
  3. Cynheswch y popty i 160˚C / 140˚C ffan / Nwy 3-4.
  4. Rhowch yr ysgwydd mewn hambwrdd pobi dwfn.
  5. Torrwch y llysiau a’u gosod o amgylch y cig oen, arllwyswch y stoc cyw iâr a’r gwin gwyn drosto. Gosodwch yr ansiofis fan hyn a fan draw, malu’r pen garlleg ac ychwanegu’r ewinedd ynghyd â’r perlysiau. Gorchuddiwch â darn arall o bapur pobi, yna dalen o ffoil tun, gan selio’r ochrau’n dynn fel na all lleithder ddianc.
  6. Rhowch y cyfan yn y popty am tua 4 awr neu nes bod y cig mor frau, y gellir ei rwygo gyda llwy. Gadewch y cig i orffwys, wedi’i orchuddio, am 15 munud cyn ei weini.
  7. Torrwch a rhwygwch y cig i mewn i’r saws a’i weini gyda llawer o’r grefi, llysiau a rhywbeth i amsugno’r saws.
Share This