facebook-pixel

Cig Oen Cymru wedi’i goginio’n araf gyda photes perlysiau gan Julius Roberts

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 2 awr 15 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg ffiled gwddf Cig Oen Cymru PGI
  • 4 winwnsyn gwyn, wedi’u sleisio
  • 5 moronen, wedi’u plicio a’u torri’n gylchoedd
  • 50g menyn
  • 10 ewin garlleg, wedi’u torri’n fras
  • 6 deilen llawryf wedi’u clymu gyda bwnsiad o deim
  • 6 ansiofi
  • 2 wydraid o win coch
  • 700ml stoc cyw iâr

Dull

  1. Sesnwch wddf y cig oen yn hael a’i ffrio mewn padell boeth gydag olew blodyn yr haul nes ei fod yn frown ac wedi’i garameleiddio.
  2. Pan fydd yn barod, tynnwch y cig oen allan a defnyddiwch yr un badell i ffrio’r winwns gyda menyn a phinsiad da o halen. Ychwanegwch sblash o win i ddadsgleinio’r badell a chrafu’r holl ddarnau hyfryd sydd wedi’u carameleiddio.
  3. Coginiwch y winwns nes eu bod yn dechrau meddalu ac yna ychwanegwch yr ansiofis, y perlysiau a’r garlleg.
  4. Ffriwch am 5 munud nes bod yr ansiofis yn toddi, yna ychwanegwch y gwin a’i leihau i tua hanner.
  5. I orffen, swatiwch y cig oen i mewn ac arllwys y stoc cyw iâr drosto, gan sicrhau nad ydych yn boddi’r cig oen. Rydych chi eisiau gallu gweld y ffiledau’n sbecian drwodd.
  6. Ychwanegwch y moron a’u pwyso i lawr i mewn i’r cawl, a sesno’n hael eto gyda phupur a halen.
  7. Dewch â’r cyfan i’r berw’n ysgafn, blaswch i wirio’r sesnin am y tro olaf, yna gorchuddiwch â memrwn pobi a chaead.
  8. Rhowch mewn popty 175˚C / 155˚C ffan / Nwy 3 am 2 awr nes bod y cig oen mor dyner y gallwch ei dynnu ar wahân gyda llwy.
  9. Gweinwch gyda stwnsh mwstard a gorfetys.
Share This