facebook-pixel

Ragu Cig Oen Cymru popty araf Hungry Healthy Happy

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 5 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.3kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n dalpiau
  • 2 lwy fwrdd blawd
  • 1 pinsiad halen môr a phupur du
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 foronen ganolig, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 1 gwythïen seleri, wedi’i thorri’n giwbiau mân
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy de rhosmari sych
  • 200ml stoc cig oen
  • 60ml gwin coch
  • 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • Tun 400g tomatos wedi’u torri

Dull

Diolch i Hungry Healthy Happy am y rysait

 

  1. Mewn powlen fach, cyfunwch y blawd, halen a phupur.
  2. Ychwanegwch y blawd i’r cig oen wedi’i dorri’n giwbiau mân. Cymysgwch yn dda fel bod yr holl gig oen wedi’i orchuddio.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ac ychwanegwch y cig oen wedi’i orchuddio. Cynheswch fel bod y cig oen yn frown ar bob ochr, tua 5 munud. Unwaith y bydd wedi brownio, rhowch o’r neilltu.
  4. Ychwanegwch y moron, y seleri a’r winwnsyn wedi’u torri’n giwbiau mân i’r badell. Coginiwch nes eu bod wedi meddalu, tua 5 munud.
  5. Ychwanegwch y llysiau meddal i’r popty araf ac yna ychwanegwch y cig oen.
  6. Ychwanegwch y garlleg, rhosmari, stoc (wedi’i doddi mewn 200ml o ddŵr berwedig), gwin a saws Worcestershire.
  7. Ychwanegwch y purée tomato a’r tomatos wedi’u torri. Cymysgwch yn dda.
  8. Coginiwch yn isel am 7 awr neu’n uchel am 5 awr.
Share This