facebook-pixel

Cig Oen Cymru rhost gyda garlleg, rhosmari a thatws rhost gan Chris Baber

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr 15 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2kg coes Cig Oen Cymru PGI
  • 2 ewin garlleg, wedi’u torri’n sleisys
  • 2 sbrigyn o rosmari

Ar gyfer y menyn:

  • 100g menyn (ar dymheredd yr ystafell)
  • 1 ewin garlleg, wedi’i gratio
  • 4 ansiofi, wedi’u torri’n fân

Ar gyfer y tatws:

  • 1kg tatws Maris Piper, wedi’u plicio a’u torri’n chwarteri
  • 2-3 llwy fwrdd olew hadau rêp

Dull

  1. Tynnwch y cig oen allan o’r oergell 1 awr cyn ei goginio. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
  2. Rhowch y cig oen ar rac weiren mewn hambwrdd rhostio. Gwnewch tua 15 toriad bach gyda chyllell finiog, tua 1.5cm o ddyfnder, dros y cig oen i gyd. Stwffiwch sleisen o arlleg a rhosmari ym mhob toriad.
  3. Cymysgwch gynhwysion y menyn gyda’i gilydd nes eu bod yn llyfn. Rhwbiwch y menyn dros y cig oen.
  4. Rhostiwch am 1 awr 15 munud nes ei fod yn euraidd neu nes bod y tymheredd mewnol yn cyrraedd tua 60˚C (ar gyfer cig canolig).
  5. Pan fydd y cig oen yn mynd i’r popty, lled-ferwch y tatws mewn dŵr hallt berw am 8 munud nes eu bod wedi meddalu ychydig. Draeniwch y tatws, gan ganiatáu iddynt sychu yn yr hidlydd.
  6. Trosglwyddwch y tatws i hambwrdd, arllwyswch â’r olew, sesnwch gyda halen a chymysgu’r cyfan.
  7. Ar ôl i’r cig oen goginio am 45 munud, rhowch y tatws i mewn i’w rhostio am 45 munud neu nes eu bod yn euraidd, ac yna trowch nhw ar ôl 25 munud (bydd hyn yn golygu eu bod yn barod pan fydd yr oen wedi gorffwys).
  8. Pan fydd y cig oen wedi’i goginio, gorchuddiwch a gorffwyswch y cig am 30 munud cyn ei gerfio.
  9. Gweinwch gyda’r tatws a llysiau tymhorol.
Share This