facebook-pixel

Ragiau Cig Oen Cymru gyda rhosmari, lemon a garlleg

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2 rag Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 2 sbrigyn mawr o rosmari ffres, wedi’u torri’n fân
  • 1 lemon, croen a sudd
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • Pupur du

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2286 KJ
  • Calorïau: 551 kcals
  • Braster: 46.7 g
  • Sy’n dirlenwi: 21.2 g
  • Halen: 0.28 g
  • Haearn: 2.24 mg

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4-5. Cymerwch y ddau rag cig oen a chyfrifwch yr amser coginio: canolig – 25 munud fesul 450g/0.5kg a 25 munud ychwanegol, wedi’i goginio’n dda – 30 munud fesul 450g/0.5kg a 30 munud ychwanegol.
  2. Cymysgwch y rhosmari, croen a sudd lemwn, garlleg, olew olewydd a phupur a halen a rhwbio ar y ragiau.
  3. Coginiwch ar farbeciw wedi’i gynhesu ymlaen llaw gyda chaead neu rhowch y ragiau mewn hambwrdd rhostio a’u coginio yn y popty am yr amser a gyfrifwyd.
  4. Gweiniwch y cig oen gyda thatws newydd a salad gwyrdd.
Share This