facebook-pixel

Pinchos Moruños ffiled Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg ffiled Cig Oen Cymru PGI, wedi’i docio (byddai ffolen / stêcs coes cig oen hefyd yn ddewisiadau amgen da)
  • 1 llwy fwrdd hadau coriander, wedi’u tostio mewn padell sych am 2 funud
  • 2 lwy fwrdd paprica mwg mwyn
  • 1 llwy fwrdd coriander mâl
  • 1 llwy fwrdd cwmin mâl
  • 1 llwy fwrdd oregano sych
  • 2 goesyn teim, dail wedi’u tynnu
  • 1 llwy fwrdd halen môr (haenau)
  • ½ llwy fwrdd pupur du
  • 50ml olew olewydd
  • 2 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
  • 2 lemon wedi’u cadw
  • 1 llond llaw coriander ffres, gan gynnwys y coesyn
  • 10 deilen fintys
  • Sgiwerau pren neu bambŵ

 

Rhywbeth ychwanegol dewisol: Saws Romesco (30 munud)

  • 300g tomatos ffres hirgrwn
  • 50ml olew olewydd ifanc iawn, a mwy i ddiferu
  • 1 dafell bara diwrnod oed
  • 1 ewin garlleg, wedi’i sleisio
  • 25g almonau rhost hallt
  • 1 llwy fwrdd finegr sieri
  • 2 pupryn piquillo o jar
  • ½ llwy de paprica mwg mwyn
  • Halen môr a phupur du wedi’i falu’n ffres

 

Rhywbeth ychwanegol dewisol: Mojo Verde (20 munud)

 

  • 2 lwy de hadau cwmin
  • 1 clwstwr shibwns, dim ond y rhannau gwyn
  • 4 ewin garlleg
  • 3 llond llaw fawr coriander
  • 100ml finegr seidr
  • 100ml olew olewydd golau neu olew llysiau da
  • 100ml olew olewydd ifanc iawn
  • Halen môr a phupur du wedi’i falu’n ffres

Dull

  1. Rhowch yr holl sbeisys sych, perlysiau, olew olewydd, halen a phupur i mewn i gymysgydd, cymysgwch am 1 munud. Ychwanegwch y garlleg ffres, lemonau wedi’u cadw, y mintys a’r coriander ffres, cymysgwch eto am tua 30-60 eiliad, nes bod gennych farinâd llyfn trwchus ac aromatig hyfryd.
  2. Torrwch y ffiled cig oen yn giwbiau 1.5 modfedd. Ychwanegwch y cig oen i bowlen gymysgu ac arllwyswch y marinâd drosto. Cymysgwch y cyfan yn drylwyr a’i orchuddio. Rhowch yn yr oergell am o leiaf 2 awr, ond hyd at 12 awr.
  3. Cynheswch badell ffrio wrthglud i wres canolig uchel, gyda diferiad o olew olewydd golau. Rhowch y cig oen wedi’i farinadu ar y sgiwerau, a’i serio yn y badell boeth am 2 funud bob ochr, neu nes ei fod yn binc yn y canol.
  4. Tynnwch y cig allan a’i orffwys am 5 munud cyn ei weini.

 

Rhywbeth ychwanegol dewisol: Saws Romesco (30 munud)

 

  1. Cynheswch y popty i 220˚C / 200˚C ffan / Nwy 7.
  2. Torrwch y tomatos yn eu hanner a’u rhoi mewn hambwrdd rhostio. Diferwch ychydig o olew olewydd drostynt, ychwanegu halen a phupur a’u rhostio am 20 munud.
  3. Yn y cyfamser, cynheswch y 50ml o olew mewn padell ffrio nes ei fod yn ganolig-boeth, yna ychwanegwch y bara a’r garlleg. Coginiwch am 2 funud ar bob ochr, neu nes ei fod yn frown euraid. Rhowch o’r neilltu i oeri.
  4. Pan fydd wedi oeri, trosglwyddwch i brosesydd bwyd neu gymysgydd. Ychwanegwch y tomatos rhost a’r holl gynhwysion sy’n weddill, a’i gymysgu’n biwrî ychydig yn fras (y ffordd draddodiadol), neu nes ei fod yn llyfn os yw’n well gennych. Blaswch ac addaswch y sesnin.

 

Rhywbeth ychwanegol dewisol: Mojo Verde (20 munud)

 

  1. Rhowch yr hadau cwmin mewn padell ffrio sych a’u cynhesu nes eu bod wedi’u tostio. Cadwch nhw i symud oherwydd gallant losgi’n hawdd. Trosglwyddwch nhw i forter a’u malu gyda phestl. Torrwch y shibwns, y garlleg a’r coriander yn fras.
  2. Rhowch yr holl gynhwysion, ac eithrio’r coriander, mewn cymysgydd a’u cymysgu am 1 munud.
  3. Nawr dechreuwch ychwanegu’r coriander ychydig ar y tro, gan barhau i gymysgu wrth fynd ymlaen, nes ei fod i gyd wedi’i ychwanegu a’r gwead yn llyfn ac yn hufennog.

 

Share This