facebook-pixel

Ffiled Cig Eidion Cymru tonnau a’r tir gan Gareth Ward

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 ffiled o Gig Eidion Cymru PGI
  • 100g corgimychiaid ffres o ansawdd da, wedi eu plicio a’u golchi
  • Llond llaw o bersli, wedi ei dorri’n fân
  • Halen
  • Ambell dalp o fenyn heb halen
  • 4-5 ewin garlleg, wedi eu malu neu eu torri’n fân
  • Llond llaw o shibwns wedi eu piclo, wedi eu sleisio’n fân
  • Llond llaw o ddail brocoli, neu ddail eraill fel cêl neu spigoglys

Dull

  1. Rhoi halen ar ddwy ochr y stêcs a’u gosod mewn padell ffrio boeth, gydag olew. Ar ôl munud neu ddau, eu troi a throsglwyddo’r stêcs i ffwrn ar dymheredd isel (tua 100ºC / 80ºC fan / Gas 1) i goginio am 5 munud arall ar gyfer stêcs canolig-gwaedlyd (neu at eich dant). Gadael y stêcs i orffwys mewn lle cynnes unwaith iddyn nhw gael eu coginio at eich dant.
  2. Gwneud y menyn garlleg trwy dwymo’r menyn mewn padell, gan ychwanegu garlleg a’i goginio am ryw 5 munud tan fod y garlleg yn feddal iawn. Ei dynnu oddi ar y gwres ac, unwaith iddo stopio berwi, ychwanegu’r corgimychiaid i’r gymysgedd yn ogystal â’r persli, a’i adael i goginio yn y gwres sy’n weddill.
  3. Aildwymo a golosgi’r stêcs am fwy o flas a chrisbrwydd drwy osod y stêcs ar farbeciw neu gril am eiliad neu ddwy.
  4. I’w gweini, sleisio’r stêcs yn 5 neu 6 yr un ac ychwanegu pinsiad o halen. Gosod y dail gwyrdd yng nghanol y plat a’r stêcs ar eu pennau – bydd y gwres sy’n weddill o’r stêcs yn potsio’r dail yn ysgafn. Rhoi’r corgimychiaid â menyn garlleg ar ben y stêcs a gosod ambell shibwnsyn wedi ei biclo dros y pryd i orffen.
Share This