facebook-pixel

Cebabs Cig Oen Cymru gyda couscous ffeta a llysiau’r haf wedi’u golosgi

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g stêcs coes neu ben bras Cig Oen Cymru PGI (neu ffiledau gwddf heb esgyrn), wedi’u torri’n giwbiau

Ar gyfer y marinâd:

  • 4 llwy fwrdd olew olewydd
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Sudd a chroen 1 lemon
  • Pupur a halen
  • ½ llwy de paprica
  • 6 sbrigyn o ddail teim, wedi’u malu

Ar gyfer y couscous llysiau’r haf:

  • 200g couscous
  • Sudd a chroen 1 leim
  • 1 llwy fwrdd mintys wedi’i falu (cadwch rywfaint i addurno)
  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 courgette bach, wedi’u sleisio
  • 1 pupur coch, wedi’i dorri’n giwbiau
  • Llond llaw o mangetout, wedi’u sleisio
  • ½ llwy de powdr garlleg
  • ½ llwy de perlysiau mân
  • 50g caws ffeta, wedi’i falu

I’w weini:

  • Aioli

Dull

  1. Rhowch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd mewn powlen neu fag rhewgell wedi’i selio â sip, ychwanegwch y ciwbiau o gig oen, rhowch y cyfan yn yr oergell a’i adael i farinadu am 30 munud (awr os ydych chi’n defnyddio’r ffiled gwddf).
  2. Ar ôl marinadu, rhowch y ciwbiau ar sgiwerau a gadael iddyn nhw gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  3. Coginiwch y couscous yn ôl y cyfarwyddyd ar y pecyn, yna cymysgwch 1 llwy fwrdd o olew olewydd, y mintys, a sudd a chroen y leim i mewn. Gorchuddiwch a’i adael i sefyll.
  4. Mewn powlen fach, cymysgwch y llwy fwrdd o olew olewydd sydd dros ben, y powdr garlleg a’r perlysiau sych gyda’i gilydd a’u brwsio dros y llysiau sydd wedi’u paratoi.
  5. Coginiwch y cebabs ar blât radell, barbeciw neu gril am oddeutu 10 – 12 munud, gan eu troi’n achlysurol (neu eu coginio at eich dant).
  6. Tra bod y cebabs yn coginio, cynheswch radell neu rhowch nhw ar y plât solet ar y barbeciw a choginiwch y llysiau am ychydig funudau bob ochr, gan eu cadw’n grensiog braf.
  7. Gweinwch y cebabs gyda’r couscous, ynghyd â’r llysiau wedi’u golosgi a’r ffeta wedi’i falu, mintys wedi’i dorri a thalp o aioli.
Share This