facebook-pixel

Rag a gwddf Cig Oen Cymru gyda thatws dauphinoise a garlleg gwyllt gan Hywel Griffith

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 rag Cig Oen Cymru PGI
  • 2 ffiled gwddf Cig Oen Cymru PGI
  • 300g hufen
  • 2 sbrigyn o deim
  • 2 sbrigyn o rosmari
  • 2 ewin garlleg
  • Pupur du
  • 7 taten fawr
  • 200g brocoli tenau
  • 100g garlleg gwyllt
  • 300g stoc cyw iâr

Dull

  1. Rhostio’r ffiled gwddf cig oen tan ei fod yn frown euraidd, yna ychwanegu’r stoc cyw iâr a’i roi mewn sosban bwysedd a’i goginio am 45 – 60 munud.
  2. Tra bod y gwddf yn coginio, mwydo’r hufen trwy ei ferwi gyda’r teim, rhosmari, garlleg, halen ac ychydig o bupur du.
  3. Unwaith bod y ffiled gwddf yn frau, ei gadael i oeri ychydig.
  4. Sleisio’r tatws a dechrau eu gosod mewn haenau mewn arddull dauphinoise gyda’r garlleg gwyllt, hufen wedi mwydo a’r ffiled gwddf. Coginiwch yn y ffwrn am tua awr ar 170°C / Nwy 5.
  5. Tra bod y tatws yn coginio, tewychu’r stoc (y coginiwyd y ffiled gwddf ynddo) i wneud y saws.
  6. Pan fod y tatws wedi bod yn coginio am ryw 40 munud gellir dechrau crino’r rag cig oen (sicrhewch bod y cig wedi cyrraedd tymheredd yr ystafell cyn ei goginio). Mae’n rhaid sicrhau eich bod yn tostio’r braster tan ei fod yn lliw euraidd tywyll cyn ei roi yn y ffwrn am ryw 12 munud. Ei adael i orffwys am 10 munud ar ôl coginio.
  7. Tra bod y rag cig oen yn gorffwys a’r tatws yn oeri ychydig, coginio’r brocoli mewn dŵr berw hallt.
  8. Dylai’r saws fod wedi tewychu i ansawdd hyfryd erbyn hyn. Gweini a mwynhau.
Share This