facebook-pixel

Peli Cig Oen Cymru â sbeisys Morocaidd gan Chris Baber

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

Ar gyfer y peli cig:

  • 500g briwgig Cig Oen Cymru PGI
  • Clwstwr bach o fintys, wedi’i dorri’n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i gratio
  • ½ llwy de cwmin

Ar gyfer y saws:

  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 pupryn gwyrdd, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 2 x 400g tun tomatos wedi’u torri
  • 2 lwy de cwmin
  • 1 llwy de paprica mwg
  • ½ llwy de sinamon
  • Clwstwr bach o bersli, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd haenau almwn
  • 2 lwy fwrdd hadau pomgranad (dewisol)

Ar gyfer y dresin iogwrt harissa (cymysgwch y cyfan):

  • 4 llwy fwrdd iogwrt Groegaidd
  • 1 llwy fwrdd past harissa

I weini:

  • Couscous

Dull

  1. Rhowch y briwgig mewn powlen gyda’r mintys wedi’i dorri, y garlleg a’r cwmin. Cymysgwch nes ei fod wedi cyfuno.
  2. Rholiwch y cymysgedd yn beli bach, tua maint pêl tenis bwrdd.
  3. Cynheswch lond llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio fawr dros wres canolig. Ffriwch y peli cig am 2 funud nes eu bod yn euraidd drostynt, yna rhowch nhw ar blât.
  4. Ychwanegwch y winwnsyn i’r badell gyda’r garlleg a’r pupryn, coginiwch am 5 munud nes ei fod wedi meddalu.
  5. Ychwanegwch y sbeisys, coginiwch y cyfan am 30 eiliad, ac yna ychwanegu’r tomatos. Dewch â’r cyfan i’r berw.
  6. Ychwanegwch y peli cig i’r badell, gorchuddiwch nhw’n llac, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am 15-20 munud nes bod y cig wedi coginio.
  7. Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac yna gwasgarwch y persli, cnau almon a hadau pomgranad dros y peli cig.
  8. Gweinwch gyda’r dresin iogwrt a’r couscous.
Share This