facebook-pixel

Kofta bach Cig Eidion Cymru a bysedd gwrach

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fân, a’i ffrio’n ysgafn mewn ychydig o olew a’i oeri
  • 1 foronen fawr, wedi ei phlicio a’i gratio
  • 1 llwy fwrdd past cyri mwyn (neu saws coch)
  • 1 wy bychan, wedi ei guro (i lynu os oes angen)

I addurno’r mymis

  • Toes neu grwst pizza, wedi ei dorri’n stribedi
  • Mozzarella neu olewydd

I addurno’r bysedd gwrach

  • Cnau almon wedi eu blansio neu ddarnau bychain o lysiau e.e. pupurau wedi eu torri’n siâp ewinedd

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  2. Rhowch y briwgig mewn powlen ac ychwanegwch y winwnsyn, y foronen a’r past cyri. Cymysgwch y cyfan ac, os oes angen, ychwanegwch ychydig o’r wy i lynu’r gymysgedd at ei gilydd.
  3. Siapiwch y gymysgedd cig eidion yn siapiau selsig/kofta (efallai y bydd hyn yn haws i blant os ydyn nhw’n gwlychu eu dwylo). Rhowch nhw ar hambwrdd pobi.
  4. I wneud y bysedd, gwasgwch almon neu lysieuyn i mewn i dop y kofta.
  5. I wneud y mymis, codwch y kofta yn eich llaw a defnyddio stribed o does neu grwst a’i lapio o gwmpas y kofta gan adael lle i ychwanegu’r llygaid.
  6. I ffurfio’r llygaid, gwasgwch ddarn bychan o mozzarella neu hanner olewydd i mewn i’r kofta.
  7. Coginiwch nhw am ryw 12-15 munud tan eu bod wedi eu coginio drwyddynt.
  8. Mae’r mymis kofta a’r bysedd gwrach yn wych i’w dipio mewn saws coch neu mayonnaise.
Share This