facebook-pixel

Llusernau pupur wedi eu stwffio â Chig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Sbarion bolognese Cig Eidion Cymru PGI (neu gwnewch bolognese gyda 250g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI)
  • 4 pupur
  • 1 pecyn o reis wedi ei goginio
  • Llysiau eraill (e.e. corn melys mewn tun, pupurau wedi eu torri, moron wedi eu gratio)
  • 75g caws wedi ei ratio (mozzarella neu cheddar)

Dull

  1. Tynnwch dopiau’r pupurau a’u rhoi o’r neilltu (byddan nhw’n cael eu defnyddio fel caeadau’r llusernau). Tynnwch yr hadau a chanol y pupurau. Gan ddefnyddio cyllell finiog, cerfiwch siapiau wybebau i mewn i’r pupurau yn ofalus.
  2. Gwnewch ychydig o bolognese cig eidion, neu cynheswch sbarion bolognese, ychwanegwch ragor o lysiau i mewn i’r gymysgedd a’r reis wedi ei goginio.
  3. Rhowch y gymysgedd i mewn i’r pupurau fesul llwyaid, gan ychwanegu ychydig o gig yn y canol. Gorffennwch gyda rhagor o gaws a rhowch y top (y caead) yn ôl ar y pupur.
  4. Rhowch nhw yn y ffwrn ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 5 am ryw 25 munud tan fod y llenwad yn chwilboeth.
Share This