facebook-pixel

Tsili talpiog Cig Eidion Cymru Kieran Hardy

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g stêc balfais Cig Eidion Cymru PGI, heb fawr o fraster ac wedi’i thocio
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i blicio a’i dorri’n fras
  • 1 tsili coch, heb hadau ac wedi’i sleisio (dewisol)
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • tun 400g tomatos wedi’u torri
  • tun 400g ffa Ffrengig, wedi’u draenio a’u rinsio
  • 1 pupur coch, heb hadau ac wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 1 pupur melyn, heb hadau ac wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 150ml passata
  • 150ml stoc cig eidion
  • 2 lwy de powdr tsili mwyn

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4, neu cynheswch y popty araf.
  2. Cymerwch ddysgl gaserol neu badell ffrio fawr, cynheswch yr olew a browniwch y cig ar bob ochr.
  3. Ychwanegwch y winwnsyn, y tsili a’r garlleg, a’u meddalu’n ysgafn.
  4. Ychwanegwch yr holl gynhwysion sy’n weddill a’u cymysgu’n dda i’w cyfuno. Codwch y gymysgedd yn ofalus gyda llwy i mewn i’r popty araf neu’r ddysgl gaserol a rhowch gaead ar y cynhwysydd.
  5. Rhowch yn y popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am tua 2-2½ awr nes bod y cig yn dyner, neu coginiwch ar dymheredd isel yn y popty araf am 5-6 awr.
  6. Gweinwch mewn powlenni gyda reis, neu mae’n wych gyda thaten drwy’i chroen a llwyaid o hufen sur.
Share This