facebook-pixel

Enchiladas Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 500g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri’n fân
  • 4 ewin o garlleg, wedi’u torri’n fân
  • 1 llwy fwrdd o saws Worcester
  • 400g tun o domatos cyfan
  • 2 llwy de o berlysiau cymysg
  • 1 llwy de o gwmin
  • 1-2 llwy de o bowdr tsili (dewiswch chi faint)
  • 1 llwy de o baprica
  • 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
  • Halen a phupur i roi blas
  • Olew i ffrio
  • 4 tortilla mawr gwenith cyflawn
  • 100g o gaws cheddar Cymreig wedi’i gratio
  • 2 sibolsyn, wedi’u torri’n fân

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1974 KJ
  • Calorïau: 470 kcals
  • Braster: 20 g
  • Sy’n dirlenwi: 9.7 g
  • Haearn: 6.0 mg
  • Sinc: 7.2 mg
  • Carbohydradau: 34 g
  • Sy’n siwgro: 7.6 g

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolog, cyn ychwanegu’r winwns ac yna’r garlleg, a’u coginio tan y byddan nhw’n feddal. Ychwanegwch y briwgig o gig eidion a’i droi yn y badell tan y bydd wedi brownio i gyd. Yna ychwanegwch weddill y cynhwysion (o’r saws Worcester i’r halen a phupur). Trowch y gwres yn is a gadael popeth i fudferwi am rhyw 25 munud tan y bydd y saws wedi tewychu.
  2. Leiniwch ddysgl sy’n addas i’r ffwrn gyda phapur gwrthsaim. Gwasgarwch lond dwrn o’r caws ym mhob tortilla a rhoi’r cymysgedd cig eidion ar ben y caws. Plygwch bob tortilla i greu pecyn a’u rhoi yn y ddysgl i fynd i’r ffwrn. Gadewch fymryn o’r saws ar ôl i’w daenu dros y tortillas cyn rhoi gweddill y caws wedi’i gratio ar eu pen.
  3. Pobwch yn y ffwrn am 20 munud ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 4. Gwasgarwch y sibols dros y cyfan, cyn gweini’r tortillas â salad gwyrdd.
Share This