facebook-pixel

Golwythion Cig Oen Cymru Hungry Healthy Happy wedi’u pobi yn y popty

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 17 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g golwythion lwyn Cig Oen Cymru PGI
  • 4 lwy fwrdd olew olewydd
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Ambell sbrigyn o rosmari, wedi’u torri’n fân
  • 800g tatws newydd, wedi’u chwarteru
  • ½ lemon, y sudd a chroen
  • 4 shibwnsyn, wedi’u chwarteru
  • 2 binsiad o halen môr a phupur du
  • 200g tomatos bach

Dull

Diolch i Hungry Health Happy am y rysait

 

  1. Rhowch y golwythion cig oen, 2 lwy fwrdd o olew olewydd, garlleg, rhosmari, sudd a chroen y lemon a’r halen a’r pupur mewn powlen. Cymysgwch yn dda fel bod y cig oen wedi’i orchuddio. Gorchuddiwch y cyfan a’i adael i farinadu am o leiaf 30 munud.
  2. Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
  3. Lledferwch y tatws am 5 munud. Draeniwch nhw a’u gadael i stemio’n sych am ychydig funudau.
  4. Cynheswch lond llwy fwrdd o olew mewn padell ac ychwanegwch y golwythion wedi’u marinadu. Browniwch am funud bob ochr.
  5. Rhowch y golwythion wedi’u brownio ar hambwrdd pobi mawr ac ychwanegwch y shibwns.
  6. Ychwanegwch y tatws i’r hambwrdd. Diferwch yr olew sy’n weddill dros y tatws ac ychwanegwch unrhyw olew o’r badell. Rhowch y cyfan yn y popty am 5 munud, neu 8 munud os yw’n well gennych eich cig oen wedi’i goginio’n fwy.
  7. Ychwanegwch y tomatos i’r badell a’u dychwelyd i’r popty am 10 munud arall.
Share This