facebook-pixel

Ysgwydd Cig Oen Cymru mewn popty araf gan Hungry Healthy Happy

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 5 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.3kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 foronen, wedi’i phlicio a’i sleisio
  • 1 winwnsyn, wedi’i sleisio’n fân
  • 350ml stoc llysiau
  • 3 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n denau
  • 2g rhosmari ffres

Dull

Diolch i Hungry Healthy Happy am y rysait

 

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr. Ychwanegwch yr ysgwydd cig oen a’i brownio ar bob ochr.
  2. Rhowch y winwns a’r moron yn y popty araf. Rhowch y cig oen wedi’i frownio ar ben y llysiau.
  3. Gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch dyllau i mewn i’r cig oen. Gwthiwch sleisen o arlleg ac ambell ddeilen rhosmari i mewn i bob twll.
  4. Sesnwch ac arllwyswch y stoc. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arllwys y stoc o amgylch yr oen, nid dros ei ben.
  5. Coginiwch ar y nodwedd HIGH am 5 awr.

Awgrymiadau: Os ydych chi eisiau ychwanegu mwy fyth o flas at y grefi, ar ôl i chi dynnu’r cig oen wedi’i serio allan o’r badell, gallwch ei ddad-sgleinio gyda naill ai rhywfaint o stoc neu joch o win coch. Defnyddiwch lwy bren i grafu’r badell ac yna ei dywallt i’r popty araf. Os ydych chi eisiau gwneud y cig oen hyd yn oed yn fwy crimp ar y tu allan ar ôl iddo goginio yn y popty araf, trosglwyddwch ef i dun rhostio a’i goginio yn y popty am 25-30 munud.

Share This