facebook-pixel

Rag Cig Oen Cymru gyda chrwst mwstard a pherlysiau

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • Rag Cig Oen Cymru PGI, esgyrn wedi’u twtio
  • Pupur du a halen môr
  • Olew
  • 1½ llwy fwrdd o fwstard Dijon

Ar gyfer y crwst:

  • 1 tafell drwchus o fara, wedi’i briwsioni
  • 1 llwy fwrdd o rosmari ffres, wedi’i dorri
  • 1 llwy fwrdd o deim ffres, wedi’i dorri
  • 1 lemwn, croen wedi’i gratio

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1461 KJ
  • Calorïau: 349 kcals
  • Braster: 19.8 g
  • Sy’n dirlenwi: 8.2 g
  • Halen: 2.5 g
  • Haearn: 3.1 mg
  • Sinc: 4.8 mg
  • Protein: 36 g
  • Ffeibr: 0.3 g
  • Carbohydradau: 7.5 g
  • Sy’n siwgro: 1 g

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6. I baratoi’r crwst, rhowch y bara mewn prosesydd bwyd a’i friwsioni. Ychwanegwch y croen lemwn a’r perlysiau.
  2. I baratoi’r cig oen, rhiciwch y braster ar y rag. Cynheswch y badell nes mae’n boeth ac ychwanegwch yr olew. Ysgeintiwch y pupur du dros y rag a’i ffrio nes ei fod wedi brownio ar bob ochr.
  3. Tynnwch o’r badell yna taenwch y mwstard dros y braster ar y cig oen, ysgeintiwch y gymysgedd friwsionllyd a’r halen môr drosto a’i wasgu’n ysgafn fel bod y briwsion yn glynu yn y mwstard.
  4. Rhowch ar hambwrdd pobi a choginiwch am 20-25 munud os ydych chi’n hoffi’ch cig oen yn gymedrol/eithaf pinc, neu 30-35 munud os ydych chi am ei goginio’n dda.
  5. Gadewch iddo sefyll am 5-10 munud cyn torri’n gytledi unigol.
Share This