facebook-pixel

Stêcs coes Cig Oen Cymru gyda chimichurri mintys

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 8 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 x stêc coes Cig Oen Cymru PGI (neu stêcs ffolen)
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 25g menyn
  • Sbrigyn o rosmari

Ar gyfer y chimichurri mintys:

  • 6 llwy fwrdd olew olewydd ifanc iawn
  • 3 llwy fwrdd finegr gwin coch
  • 3 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u torri’n fras
  • ½ llwy de haenau tsili, neu 1 tsili gwyrdd, wedi’i dorri
  • 1 shibwnsyn neu ½ winwnsyn coch, wedi’i blicio a’i dorri’n chwarteri
  • Bwnsiad o bersli dail gwastad ffres
  • Bwnsiad mawr o ddail mintys ffres
  • Sudd ½ lemon
  • Pupur a halen
  • ½ llwy de siwgr

Dull

  1. Tynnwch y stêcs coes allan o’r oergell a gadael iddyn nhw gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  2. I wneud y chimichurri, rhowch bopeth mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu gan adael y gwead yn weddol fras. Ychwanegwch ychydig o olew ychwanegol os oes angen. Os ydych chi’n ei wneud â llaw, torrwch bopeth yn fân a’i gymysgu gyda’i gilydd.
  3. Cynheswch radell neu badell ffrio (neu gril). Ychwanegwch ychydig o olew i’r badell, sesnwch y stêcs a’u rhoi yn yr olew poeth. Ychwanegwch y rhosmari a choginiwch y stêcs ar un ochr am oddeutu 4 munud, trowch nhw drosodd a’u coginio am 4 munud arall, gan ychwanegu’r menyn a brasteru’r stêcs gyda’r menyn wedi’i doddi.
  4. Gadewch i’r stêcs orffwys am ychydig funudau a’u gweini gyda’r chimichurri mintys, dail salad gwyrdd a bara crystiog.
Share This