facebook-pixel

Baguette peli Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 baguette ganolig
  • 450g briwgig Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 dafell drwchus o fara, wedi’i throi’n friwsion bara
  • 50g caws parmesan wedi’i gratio
  • 1 llwy de oregano sych
  • ½ llwy de powdr winwns
  • ½ llwy de powdr garlleg
  • Pupur a halen
  • 1 wy, wedi’i guro
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 jar saws pasta tomato llyfn
  • Mozzarella neu cheddar wedi’i gratio
  • Parmesan wedi’i gratio
  • Dail basil i addurno

Dull

  1. Gan ddefnyddio cyllell fara, sleisiwch ar hyd top pob baguette ond heb dorri’r holl ffordd drwodd. Agorwch nhw’n ysgafn.
  2. Gwnewch y peli cig: Mewn powlen gymysgu fawr, rhowch y briwgig, briwsion bara, y 50g o gaws parmesan wedi’i gratio, oregano, powdr winwns a’r powdr garlleg, sesnin a chymysgu’n ysgafn gyda fforc. Ychwanegwch ddigon o’r cymysgedd wy i’w glymu at ei gilydd.
  3. Ffurfiwch beli cig maint pêl golff, gadewch i sefyll/oeri am 10 munud.
  4. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y peli cig yn ysgafn i’w lliwio. Arllwyswch y saws tomato drostynt, dewch â’r cyfan i’r berw a mudferwch yn ysgafn heb orchuddio am tua 15 munud nes bod y peli cig wedi coginio a’r saws wedi tewychu.
  5. I weini, rhowch ychydig o saws i mewn i bob un o’r baguettes, rhowch 3 neu 4 pelen cig ar y top a mwy o’r saws.
  6. Rhowch y caws wedi’i gratio ar y top.
  7. Rhowch o dan gril poeth neu bopty poeth am ychydig funudau nes bod y caws wedi toddi.
  8. Gweinwch wedi’u gwasgaru gyda dail basil.
Share This