facebook-pixel

Katsu Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio yn denau
  • 75g o flawd plaen, wedi’i flasuso
  • 1 wy mawr, wedi’i guro
  • 75g o friwsion bara panko (neu gallwch wneud eich briwsion bara eich hun)
  • 25g o friwsion bara euraid
  • Olew ar gyfer ffrio bas

Ar gyfer y saws

  • 1 llwy de o olew llysiau
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 2.5cm o wreiddyn sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd o bowdr cyrri cymedrol ei sbeis
  • 2 lwy fwrdd o flawd plaen
  • 250ml o stoc cyw iâr
  • 1 llwy fwrdd o saws soi
  • 1 llwy fwrdd o fêl

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1511 KJ
  • Calorïau: 358 kcals
  • Braster: 10.2 g
  • Sy’n dirlenwi: 2.7 g
  • Halen: 1.4 g
  • Haearn: 3.6 mg
  • Sinc: 4.6 mg
  • Protein: 30 g
  • Ffeibr: 2.2 g
  • Carbohydradau: 39.3 g
  • Sy’n siwgro: 7.2 g

Dull

  1. I wneud y saws: cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn am rai munudau tan y bydd yn meddalu ac yn dechrau newid ei liw. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir a’u coginio am rai munudau.
  2. Ychwanegwch y powdr cyrri a’r blawd a’u cymysgu am funud. Yn araf, ychwanegwch y stoc, gan droi’r gymysgedd yn ddi-baid er mwyn osgoi lympiau.
  3. Ychwanegwch y mêl a’r saws soi. Dewch â’r cymysgedd i’r berw a’i adael i fudferwi am 10 munud. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu rhagor o ddŵr os bydd y cymysgedd yn eithaf trwchus. Os ydych am gael saws llyfn, defnyddiwch flendiwr.
  4. Cymerwch y stêcs allan o’r oergell 20 munud cyn coginio.
  5. Rhowch y blawd, yr wy a’r briwsion bara mewn tair powlen neu blât bas gwahanol.
  6. Dipiwch y stêcs eidion yn y blawd, yna yn yr wy, ac yn olaf yn y briwsion bara, gan sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio i gyd. I’w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
  7. I’w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
  8. Gweinwch y cig gyda reis gludiog a’r saws cyrri katsu blasus, ynghyd â salad crensiog neu golslo hyfryd.
Share This