facebook-pixel

Goulash Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 750g stêc balfais Cig Eidion Cymru PGI (stêc brwysio), wedi’i thorri’n giwbiau talpiog
  • 2 winwnsyn mawr, wedi’u torri’n dalpiau
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd paprica
  • 1 llwy fwrdd paprica mwg
  • 150g madarch castan, wedi’u chwarteru
  • Joch o finegr gwin coch
  • 1 pupur coch, heb hadau ac wedi’i dorri’n dalpiau
  • 1 pupur oren, heb hadau ac wedi’i dorri’n dalpiau
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 600ml stoc cig eidion
  • 1 x tun 400g tomatos wedi’u torri
  • 1 llwy fwrdd blawd corn i dewychu (os oes angen)

I weini:

  • Hufen sur
  • Persli, wedi’i dorri
  • Bara crystiog

Dull

  1. Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio’r cig eidion mewn dau swp nes ei fod yn frown braf. Dychwelwch yr holl gig eidion i’r ddysgl.
  3. Ychwanegwch y winwns a’r madarch a’u ffrio am ychydig funudau i’w lliwio. Ychwanegwch y garlleg a’i droi am funud arall.
  4. Ychwanegwch y sbeisys paprica a’u troi’n dda. Ychwanegwch joch o finegr gwin coch.
  5. Ychwanegwch y tomatos, stoc a sesnin, eu troi’n dda a dod â nhw i’r berw. Gorchuddiwch gyda chaead a’i roi yn y popty am awr a hanner.
  6. Ychwanegwch y pupurau a choginio am 30 munud arall neu nes bod y cig eidion yn frau.
  7. Cyn gweini, tewychwch os oes angen.
  8. Gweinwch gyda llwyaid o hufen sur a phersli wedi’i dorri.
  9. Mae’n flasus iawn gyda bara crystiog, reis neu basta â menyn.
Share This