facebook-pixel

Pastai sbarion Cig Eidion Cymru bourguignon

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Sbarion bourguignon (gan ddefnyddio Cig Eidion Cymru PGI)
  • Crwst pwff o’r siop
  • 1 wy, wedi ei guro
  • 1 llwy de llaeth

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
  2. Rhowch y sbarion cig eidion bourguignon mewn dysgl bopty addas.
  3. Ar fwrdd â blawd, rholiwch ddigon o grwst pwff i orchuddio’r ddysgl. Torrwch stribedi tenau o grwst a’u gwlychu â dŵr a gwasgu o gwmpas ymyl y ddysgl. Glychwch ymyl y crwst a rhowch y crwst sydd wedi ei rolio dros y bastai. Tociwch o gwmpas y ddysgl cyn selio a chrimpio’r ymylon.
  4. Ychwanegwch ychydig o laeth at yr wy sydd wedi ei guro a defnyddiwch frws crwst i frwsio dros arwyneb y crwst.
  5. Rhowch yn y ffwrn am ryw 25 – 30 munud tan fod y crwst yn frown euraidd a’r llenwad yn chwilboeth.
Share This