facebook-pixel

Iach, hyblyg – a chyflym… mae Cig Oen Cymru PGI yn ffefryn i’r teulu

Mae sicrhau bod y teulu cyfan yn bwyta’n dda yn flaenoriaeth i famau a thadau, cywir?

Mae Cig Oen Cymru yn bryd wythnosol gwych ar gyfer bechgyn a merched (a mamau a thadau) sy’n tyfu gyda lefelau uchel o brotein, haearn a maetholion hanfodol eraill. Mae’n ddewis gwych yn lle cyw iâr a chig eidion sy’n cael eu defnyddio’n fwy cyffredin – ac mae’n gyfle i arbrofi yn y gegin.

Ond does dim rhaid i goginio gyda Chig Oen Cymru fod yn gymhleth – ac yn sicr does dim rhaid iddo gymryd llawer o amser, felly mae’n berffaith ar gyfer rhieni prysur sy’n dal i fod eisiau creu prydau bwyd cartref iach (a blasus).

Oeddech chi’n gwybod bod cig oen yn un o’r ffynonellau protein mwyaf hyblyg y gallwch chi ei ychwanegu at eich cynlluniau bwyd wythnosol? Mae’n addas iawn ar gyfer gwahanol arddulliau, bwydydd a chwaeth – sy’n ddefnyddiol i’w wybod!

Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes.

Prydau tanbaid syml.

Dewch â chadair at fwrdd y cogydd.

Cyngor bwyta iach gydol oes.

Yr amgylchedd. Y ffeithiau.

Mae Cig Oen Cymru yn bryd wythnosol gwych ar gyfer bechgyn a merched (a mamau a thadau) sy’n tyfu gyda lefelau uchel o brotein, haearn a maetholion hanfodol eraill. Mae’n ddewis gwych yn lle cyw iâr a chig eidion sy’n cael eu defnyddio’n fwy cyffredin – ac mae’n gyfle i arbrofi yn y gegin.

Ond does dim rhaid i goginio gyda Chig Oen Cymru fod yn gymhleth – ac yn sicr does dim rhaid iddo gymryd llawer o amser, felly mae’n berffaith ar gyfer rhieni prysur sy’n dal i fod eisiau creu prydau bwyd cartref iach (a blasus).

Oeddech chi’n gwybod bod cig oen yn un o’r ffynonellau protein mwyaf hyblyg y gallwch chi ei ychwanegu at eich cynlluniau bwyd wythnosol? Mae’n addas iawn ar gyfer gwahanol arddulliau, bwydydd a chwaeth – sy’n ddefnyddiol i’w wybod!

O brydau canol wythnos i wleddoedd ar gyfer y penwythnos…

Cymerwch gip ar rai o’n hoff ryseitiau Cig Oen Cymru fan hyn. Mae llawer o’n ryseitiau’n mynd o’r oergell i swper teulu mewn llai na 30 munud, tra bod eraill yn ddelfrydol ar gyfer croesawu ffrindiau a theulu. Perffaith!

Angen rhagor o ysbrydoliaeth?

Gwyliwch ein fideos rysáit bachog fan hyn. Maen nhw’n hawdd eu dilyn ac yn dangos i chi pa mor hyblyg yw Cig Oen Cymru.

Awyddus i ymuno â’n teulu?

Byddai’n wych gallu cadw mewn cysylltiad â chi. Ymunwch â’n teulu i dderbyn ryseitiau Cig Oen Cymru blasus gan rai o gogyddion gorau’r wlad, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyffrous sydd ond ar gael i aelodau Teulu Cig Oen Cymru.

Share This