facebook-pixel

Biryani Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g ffiled gwddf, coes neu ysgwydd Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd cymysgedd sbeis tikka neu bowdr cyri canolig
  • 2 baced o reis wedi’i goginio’n barod, tua 250g ym mhob paced
  • 25g cnau almon wedi’u tostio
  • Coriander ffres, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 1 llwy fwrdd powdr cyri canolig
  • 450g detholiad o lysiau parod, e.e. ffa gwyrdd, tomatos, blodfresych, pupurau, india corn, pannas, moron, brocoli
  • 400g tun o domatos wedi’u torri
  • 2 lwy fwrdd siytni mango

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2082 KJ
  • Calorïau: 495 kcals
  • Braster: 18.0 g
  • Sy’n dirlenwi: 5.0 g
  • Halen: 0.8 g
  • Haearn: 6.44 mg

Dull

  1. Rhowch y sbeis tikka mewn dysgl. Rhowch y ciwbiau cig oen ynddo a’i gymysgu’n drwyadl. Gorchuddiwch y cig a’i adael i fwydo nes eich bod yn barod.
  2. Mewn padell fawr twymwch yr olew, ychwanegwch y garlleg a’r winwns, a’u coginio nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y powdr cyri a gorchuddio’r cynhwysion i gyd. Coginiwch y sbeis am 1-2 munud.
  3. Ychwanegwch y llysiau, y tomatos tun a’r siytni mango. Berwch y cyfan cyn ei fudferwi gyda chaead am ryw 15 munud nes bo’r blasau i gyd wedi cyfuno a’r llysiau’n frau. Ychwanegwch joch o ddŵr os bydd y saws yn mynd yn rhy drwchus.
  4. Twymwch y gril a choginio’r ciwbiau cig oen ar badell gril wedi’i leinio â ffoil am 10-12 munud nes eu bod yn dechrau brownio ac wedi’u coginio trwyddynt. Rhowch y reis wedi’i goginio’n barod ar ben y cyri llysiau, ond peidiwch â’i droi.
  5. Rhowch y ciwbiau cig oen tikka ar ben y reis, rhowch y caead yn ôl a rhoi 5 munud i bopeth gynhesu.
  6. Taenwch gnau almon wedi’u tostio a choriander ffres wedi’i dorri’n fân dros y bwyd a’i weini mewn llwyeidiau mawr gan sicrhau bod pawb yn cael y cyri llysiau, y reis a’r ciwbiau tikka.
Share This