facebook-pixel

Moussaka Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 35 mun
  • Amser coginio 2 awr 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb fawr o fraster
  • 3 planhigyn wy mawr, wedi’u plicio a’u sleisio’n drwch o 1cm
  • 2 daten fawr, wedi’u plicio a’u sleisio’n drwch o 1cm
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri’n fân
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Tun 400g tomatos wedi’u torri
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • ¼ llwy de sinamon
  • 1 llwy de oregano
  • Pupur a halen
  • Halen ychwanegol i halltu’r planhigyn wy
  • 1 llwy fwrdd blawd i ysgeintio dros y planhigyn wy
  • 2 ddeilen llawryf
  • Gwydraid bach o win coch
  • Briwsion bara ar gyfer gwaelod y ddysgl caserôl (dewisol)

Ar gyfer y saws béchamel:

  • 100g menyn heb halen
  • 100g blawd plaen
  • 900ml llaeth cyflawn
  • Pinsiad o bupur a halen
  • ½ llwy de nytmeg mâl
  • 100g caws Parmesan wedi’i gratio
  • 2 felynwy

Dull

  1. Rhowch y planhigion wy wedi’u sleisio ar bapur cegin, ysgeintiwch halen drostyn nhw, a’u gadael am 30 munud i dynnu’r lleithder allan, yna rinsiwch mewn colandr a sychwch gyda phapur cegin, yna ysgeintiwch gydag ychydig o flawd.
  2. Rhowch ychydig o olew mewn padell ffrio a ffriwch y tafelli o blanhigyn wy mewn sypiau, am ychydig funudau bob ochr, i’w lliwio. Rhowch nhw ar bapur cegin.
  3. Rhowch y sleisys tatws mewn padell o ddŵr berw am 5 munud, draeniwch, a rinsiwch â dŵr oer i’w hatal rhag coginio mwy.
  4. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4.
  5. Gwnewch y cymysgedd briwgig trwy ffrio’r briwgig cig oen nes ei fod wedi brownio, ychwanegwch y winwns a’r garlleg a’u coginio am ychydig funudau i adael i’r winwns feddalu. Ychwanegwch y tomatos, purée, sinamon, oregano, sesnin, dail llawryf a’r gwin. Dewch ag ef i’r berw, ac yna mudferwch am tua 30 munud nes ei fod yn drwchus. Gadewch i oeri ychydig.
  6. Gwnewch y saws béchamel trwy doddi’r menyn mewn sosban, yna ychwanegwch y blawd a’i chwisgio am 2 funud. Chwisgiwch y llaeth yn raddol nes bod y saws yn llyfn braf. Dewch ag ef i’r berw, ac yna tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu’r caws, nytmeg a’r sesnin. Chwisgiwch eto nes ei fod yn llyfn braf. Gadewch i’r saws oeri am tua 15 munud, yna chwisgiwch y melynwy i mewn.
  7. Irwch ddysgl bobi neu dun rhostio, ac yna ychwanegwch haen denau o friwsion bara i amsugno’r hylif o’r llysiau. Rhowch y tafelli tatws ar y gwaelod, gan eu gorgyffwrdd ychydig. Yna rhowch haenen o’r tafelli planhigyn wy ar eu pennau, gan eu gorgyffwrdd. Arllwyswch y cymysgedd cig drosto, yna haen arall o’r planhigyn wy. I orffen, arllwyswch y saws béchamel drosto.
  8. Rhowch yn y popty am tua awr. Mae’n well gadael iddo sefyll am 10-15 munud cyn ei weini.
Share This