facebook-pixel

Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru

Gor 18, 2019

https://youtu.be/uA9r2oIyEu0

Mae’r amser wedi cyrraedd unwaith eto eleni i oreuon y byd amaeth lanio yn Llanelwedd i ddathlu pinacl amaethyddiaeth Prydain, onid yw amser yn hedfan?

Mae amserlen ein stondin yn llawn dop o ddigwyddiadau fel arfer, a’r cyfan yn canolbwyntio ar arddangos rhinweddau a manteision iechyd ein Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Byddwn hefyd yn rhannu’r ymchwil diweddaraf a’r ffeithiau ynglyn â effaith amgylcheddol gwirioneddol ffermio yng Nghymru.

Peidiwch â chymryd ein gair ni, oherwydd bydd cyfoeth o gogyddion, cigyddion a chynhyrchwyr cydnabyddedig yn ymuno â ni yn y sioe eleni i rannu cyfrinachau a chyngor o’r diwydiant ynghylch paratoi a choginio fel y gallwch chi lwyddo i’r eithaf gartref.

Does dim angen cyflwyno’n gwestai cyntaf ni i’n dilynwyr; seren goginio’r we a ‘Chig-gennad’ 2019, Chris Roberts. Bydd yn dod â’i hiwmor a’i goginio unigryw i’n arddull Asado Patagonia i’n hardal farbeciw drwy gydol yr wythnos felly gall pob ymwelydd gael cyfle i flasu ei fwyd hyfryd.

Byddwn ni hefyd yn croesawu dau o’r cogyddion gorau sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Gareth Ward o fwyty Ynys Hir yn y canolbarth, sydd wedi ennill Seren Michelin a phum rosette AA, yn parhau i dynnu sylw ac ennill gwobrau am ei fwyd ble mae ‘cynhwysion yn ganolog, a chig yn obsesiwn’. Bydd Owain Hill o fwyty teuluol Hills ger Aberhonddu yn gwneud ei fyrgers sy’n tynnu dŵr o’r dannedd a sydd wedi ennill gwobrau, gan ddefnyddio cynnyrch lleol, wrth gwrs. Os hoffech chi flasu byrgers anhygoel Owain, gwyliwch y fideo a wnaeth inni’n gynharach eleni.

Bydd cogyddion proffesiynol o safon uchel yn ymuno â ni drwy gydol yr wythnos, ac yn cynnal dosbarthiadau meistr sy’n arddangos eu crefft. Yr un cyntaf, Cigyddion Dewi James, Aberteifi, yw cyflenwr swyddogol HCC ar gyfer y Sioe eleni a chafodd ei ddewis ar ôl cystadleuaeth i aelodau ein Clwb Cigyddion. Bydd Julien Pursglove, un o ddim ond 30 prif gigydd ledled y byd a’r cigydd llawrydd Mark McArdle hefyd yn cynnal arddangosfeydd byw fydd yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar eu maes.

Os nad ydych chi’n gallu dod i’r sioe eleni, cofiwch ddilyn ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn profi ac ailfyw rhai o’r uchafbwyntiau niferus!

Share This