facebook-pixel

Sbarion Cig Oen Cymru, cennin a ffacbys gan Rocket & Squash

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

Dull

Diolch i Rocket & Squash am y rysait. Os oes gennych fwyd dros ben o’r rysait Cig Oen Cymru gyda chennin a ffacbys gan Rocket & Squash, mae Edward yn awgrymu troi’r sbarion mewn i’r pryd hummus blasus yma.

 

  1. ynheswch y ffacbys a’r cennin (ac unrhyw sudd cig oen/braster dros ben) mewn sosban gyda hanner eu pwysau mewn dŵr. Cynheswch yn ysgafn fel bod y brasterau’n toddi a’r ffacbys yn gynnes – nid oes angen berwi.
  2. Rhowch y cymysgedd ffacbys mewn cymysgydd pŵer a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn iawn. Ychwanegwch y tahini, ysgeintiad hael o halen ac ychydig o sudd lemwn. Cymysgwch eto.
  3. Tostiwch yr hadau cwmin a ffenigl. Malwch nhw’n bowdr gyda phestl a mortar a’r halen môr haenog. Ychwanegwch ychydig mwy o halen a phinsiad da o haenau tsili.
  4. Rhowch ddarnau o’r cig oen dros ben mewn padell ffrio oer, cynheswch dros wres canolig-uchel nes i’r brasterau ddechrau toddi a bod y cnawd yn troi’n grimp ac yn euraidd. Torrwch y cig a’i sesno gyda’r halen sbeislyd.
  5. Rhowch y purée i mewn i bowlen gyda llwy gan adael pant yn y canol. Ychwanegwch y cig oen, joch o sudd lemwn a mwy o sesnin. Sgwpiwch gyda bara croyw neu lwy.
Share This