facebook-pixel

Cig Oen Cymru gyda chennin a ffacbys gan Rocket & Squash

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 5 awr 20 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.8-2kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI
  • 300g ffacbys sych, wedi’u socian dros nos
  • 500g cennin wedi’u tocio a’u torri’n ffyn 3cm
  • 2 fylb garlleg, wedi’u haneru
  • ½ pecyn 15g oregano
  • 250ml gwin gwyn sych
  • 850ml dŵr
  • Pupur du mâl ffres
  • Halen môr ac olew olewydd ifanc iawn i weini

Ar gyfer y chimichurri

  • ½ pecyn 15g oregano, y dail wedi’u pigo a’u torri’n fân
  • 50g bwnsiad persli dail fflat, y dail wedi’u pigo a’u torri’n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i finsio
  • ½ llwy de haenau tsili
  • 1 llwy fwrdd finegr gwin coch
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd ifanc iawn
  • 1 llwy de halen haenog wedi’i doddi mewn 75ml dŵr

Dull

Diolch i Rocket & Squash am y rysait. Os oes gennych fwyd dros ben mae Edward yn awgrymu troi’r sbarion mewn i bryd hummus blasus.

 

  1. Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
  2. Draeniwch y ffacbys wedi’u socian a’u trosglwyddo i dun rhostio mawr. Rhowch y ffyn cennin, haneri garlleg a sbrigiau oregano ymhlith y ffacbys, ychwanegwch y gwin a’r dŵr a gosod yr ysgwydd cig oen ar ei ben. Sesnwch yn hael gyda phupur du mâl (ond nid halen, gan y bydd hyn yn caledu’r ffacbys).
  3. Paratowch ddau ddarn mawr o ffoil, wedi’u plethu yn y canol, fel y gallan nhw ehangu ychydig heb rwygo. Yna seliwch y tun rhostio’n dynn a choginio am 5 awr.
  4. Yn y cyfamser, gwnewch y chimichurri trwy dorri’r perlysiau’n fân a’u cyfuno â’r cynhwysion chimichurri eraill. Gorau po gyntaf y gwnewch hyn, gan fod y blasau’n cymysgu ac yn tyneru dros amser (a dweud y gwir, triwch gynllunio i wneud hyn y noson gynt, fel ysgogiad i gofio socian eich ffacbys).
  5. Ar ôl 5 awr, edrychwch ar y cig oen; dylai fod yn feddal ac yn suddlon, ac os ydych chi’n tynnu’r esgyrn yn ysgafn, dylen nhw deimlo fel eu bod ar fin llithro allan. Os na, ail-seliwch, a rhoi 30 munud arall iddo. Os yw’n iawn, cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6, tynnwch y ffoil ac, os yw’r ffacbys yn edrych yn sych, arllwyswch 200ml o ddŵr i mewn. Rhowch ysgytwad i’r tun a rhostio am 15-20 munud i frownio top y cig oen.
  6. Pan fydd yr amser ar ben, tynnwch y cig oen o’r tun yn ofalus a’i osod ar blât. Gwasgwch yr haneri garlleg fel bod yr ewinedd meddal yn syrthio allan a’u cymysgu i mewn i’r ffacbys ynghyd â rhywfaint o halen ac ychydig mwy o ddŵr, os oes angen, i lacio pethau.
  7. Arllwyswch y ffacbys, y cennin a’r holl sudd ar blat. Rhowch y cig oen ar ei ben, tynnwch yr esgyrn allan a gwthiwch y cig yn dalpiau mawr gan ddefnyddio dwy lwy. Sesnwch yn hael gyda halen, a’i weini gyda digon o chimichurri ar ei ben.

 

Share This