facebook-pixel

Hotpot Cig Oen Cymru popty araf gan Supergolden Bakes

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 7 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 900g ysgwydd neu wddf Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau
  • Pupur a halen (i sesno)
  • 2 lwy fwrdd olew llysiau (i frownio’r cig oen)
  • 2 lwy fwrdd menyn
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 genhinen, dim ond y rhannau gwyn, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 lwy fwrdd blawd plaen
  • 1 llwy de halen
  • 2 lwy fwrdd saws Worcestershire
  • 1 llwy fwrdd past tomato
  • ½ llwy fwrdd saws llugaeron neu jam mafon heb hadau
  • 1 llwy de past garlleg neu arlleg ffres wedi’i finsio
  • 480ml stoc cig oen neu gyw iâr
  • 2 foronen, wedi’u torri’n giwbiau bach
  • 2 banasen, wedi’u plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 2 ddeilen llawryf
  • 3 taten bobi fawr, wedi’u sleisio’n denau (neu ragor, os oes angen)
  • 1 llwy de teim ffres
  • 1 llwy fwrdd menyn wedi’i doddi (i frwsio)
  • Sbrigyn o rosmari, i addurno

Dull

Diolch i Supergolden Bakes am y rysait

 

  1. Dechreuwch trwy sesno’ch cig oen gydag halen a phupur. Cynheswch yr olew mewn padell a brownio’r cig oen, mewn sypiau, dros wres uchel. Rhowch o’r neilltu.
  2. Ychwanegwch y menyn i’r badell boeth a ffriwch y winwns a’r cennin yn ysgafn nes eu bod wedi meddalu ond heb eu lliwio.
  3. Trowch y blawd i mewn ac ychydig o’r stoc i wneud grefi, yna ychwanegwch saws Worcestershire, past tomato, garlleg a saws llugaeron (os ydych chi’n ei ddefnyddio).
  4. Ychwanegwch y stoc, y cig oen a chynnwys y badell i’r popty araf a throi’r pannas, y moron a’r dail llawryf i mewn.
  5. Rhowch y tatws wedi’u sleisio mewn haenau dros y top, gan eu gorgyffwrdd ychydig. Sesnwch gyda’r halen, pupur a’r teim. Gorchuddiwch a choginiwch ar y gosodiad UCHEL am 7-8 awr.
  6. I orffen, brwsiwch y tatws gydag ychydig o fenyn wedi’i doddi a’u brownio o dan gril poeth yn y popty am 5-7 munud nes eu bod ychydig yn grensiog ar yr ymylon. Ysgeintiwch y rhosmari dros y top, gweinwch a mwynhewch!

Awgrymiadau: Gallwch chi baratoi’r rysáit ymlaen llaw a’i ychwanegu i’ch popty araf heb yr haen olaf o datws. Cadwch hwn yn yr oergell nes eich bod yn barod i goginio’r hotpot, gan ychwanegu’r haen datws ar ei ben cyn troi’r popty araf ymlaen.

Share This