facebook-pixel

Caserol siancen Cig Oen Cymru gan My Fussy Eater

  • Amser paratoi 0 mun
  • Amser coginio 0 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • 4 x siancen Cig Oen Cymru PGI
  • Pupur a halen
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 3 moronen, wedi’u torri’n gylchoedd
  • 2 ffon seleri, wedi’u torri
  • 3 llwy fwrdd blawd
  • 500ml stoc cig oen neu gig eidion
  • 350ml gwin coch
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 1 llwy de rhosmari ffres, wedi’i dorri
  • 1 llwy de teim ffres, wedi’i dorri
  • 200g madarch bach

I weini:

  • Tatws stwnsh a cêl

Dull

Diolch i My Fussy Eater am y rysait

 

  1. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4.
  2. Tarwch y siancod cig oen yn sych yn ysgafn gyda phapur cegin a’u sesno’n hael gyda halen a phupur.
  3. Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol fawr ac ychwanegwch y siancod cig oen. Coginiwch am ryw 10 munud, gan eu troi nes eu bod wedi’u brownio’n ysgafn ar bob ochr.
  4. Tynnwch y siancod cig oen allan o’r ddysgl a’u rhoi i’r ochr ar blât.
  5. Ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg, y moron a’r seleri i’r olew yn y ddysgl gaserol a’u coginio am 3 munud.
  6. Ychwanegwch y blawd, ei gymysgu’n gyflym a’i goginio am funud arall.
  7. Ychwanegwch y stoc, y gwin, y purée tomato a’r perlysiau a’u cymysgu’n dda.
  8. Dewch â’r gymysgedd i’r berw ac yna diffoddwch y gwres.
  9. Dychwelwch y siancod cig oen i’r ddysgl gaserol a’u rhoi yn y popty. Coginiwch am 2 awr 30 munud. Hanner ffordd trwy’r amser coginio, trowch y siancod cig oen drosodd ac ychwanegwch y madarch bach yn gyfan.
  10. Gweinwch gyda thatws stwnsh a chêl ffres wedi’i goginio.
Share This