facebook-pixel

Cyri Champaran handi Cig Oen Cymru gan The Curry Guy

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 900g coes Cig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn, wedi’i thorri’n giwbiau mân
  • 125ml olew mwstard
  • 1 ffon sinamon 5cm
  • 6 coden cardamom gwyrdd, wedi’u cleisio
  • 3 coden cardamom du, wedi’u cleisio (dewisol)
  • 2 ddeilen llawryf Indiaidd
  • 4 winwnsyn coch, wedi’u gratio
  • 10 ewin garlleg, heb eu plicio, wedi’u malu a’u torri’n fân
  • 1½ llwy de halen
  • 1 llwy fwrdd powdr tsili Kashmiri
  • ½ llwy de tyrmerig mâl
  • 2 lwy de coriander mâl
  • 2 lwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de ffenigl mâl
  • 2 lwy de garam masala
  • 6 tsili gwyrdd llygad aderyn, wedi’u hollti i lawr y canol
  • 4 bylb garlleg cyfan
  • 3 llwy fwrdd (hael) ghee wedi’i doddi

Ar gyfer y sêl toes

  • 6 llwy fwrdd blawd plaen

Dull

Diolch i The Curry Guy am y rysait

 

  1. Y peth gorau i’w wneud yw puro’r olew mwstard yn gyntaf trwy ei fygu a gadael iddo oeri ychydig. Yna cynheswch eto dros wres uniongyrchol ac ychwanegwch y sbeisys cyfan a’r dail llawryf i drwytho am ryw 30 eiliad.
  2. Tynnwch nhw oddi ar y gwres. Arllwyswch hanner yr olew mwstard i’ch pot clai. Os nad oes gennych un, defnyddiwch sosban fetel gyda chaead. Ychwanegwch y winwns wedi’u gratio, y garlleg wedi’i dorri, yr halen a’r holl sbeisys mâl. Trowch yn dda.
  3. Ychwanegwch y tsilis gwyrdd, bylbiau garlleg cyfan a’r cig oen wedi’i dorri’n gwibiau mân. Arllwyswch yr olew mwstard sy’n weddill dros y cyfan a’i droi’n dda fel bod popeth wedi’i orchuddio’n gyfartal.
  4. Nawr gwnewch does meddal gan ddefnyddio’r blawd ac ychydig o ddŵr. Ni fyddwch yn bwyta hwn, felly nid oes angen poeni gormod amdano. Mae ei angen i selio’r pot.
  5. Gosodwch y toes meddal o amgylch ymyl y pot ac yna gosod y caead ar ei ben i’w selio.
  6. Rhowch y pot wedi’i selio yn uniongyrchol ar y glo poeth yn rhan boethaf y tân a’i adael am 3 munud. Ysgwydwch y pot i symud y cynhwysion o gwmpas y tu mewn a’i roi ar y glo ar ran gwres isaf y tân. (Os ydych chi’n coginio ar hob, gan ddefnyddio sosban â chaead arni, coginiwch ar wres uchel am y 3 munud cyntaf, yna gostyngwch y gwres yn isel iawn am yr amser coginio sy’n weddill.)
  7. Bob rhyw ddeg munud, codwch y potyn a rhowch ambell ysgytwad caled iddo. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cig yn coginio heb losgi gwaelod y pot.
  8. Ar ôl tua 50 munud, bydd y cig y tu mewn yn frau ac yn ‘cwympo oddi ar yr asgwrn’ a bydd y bylbiau garlleg yn feddal braf. Ewch â’r potyn at y bwrdd a thynnwch y caead. Bydd yn creu argraff go iawn ac mae’r arogl yn anhygoel. Trowch y ghee wedi’i doddi i mewn a’i weini gyda reis neu fara naan.
Share This