facebook-pixel

Cobler Cig Oen Cymru Lavender and Lovage gyda thwmplenni sgons garlleg

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 6 awr 20 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 750g stêcs Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n giwbiau 2.5cm, gydag unrhyw fraster amlwg wedi’i dorri i ffwrdd
  • 2 lwy fwrdd blawd plaen
  • 25g menyn
  • Pupur du ffres a halen
  • 2 winwnsyn canolig, wedi’u plicio a’u torri
  • 4 moronen fawr, wedi’u plicio a’u torri’n giwbiau mân
  • 300ml stoc cig oen (o giwb stoc cig oen)

Ar gyfer y twmplenni sgons garlleg:

  • 300g blawd codi
  • 100g siwed llysiau neu gig eidion
  • 220ml llaeth enwyn (neu laeth sgim)
  • 1 llwy de gronynnau garlleg sych (nid halen garlleg)
  • Pupur a halen at eich dant

Dull

  1. Taflwch y cig yn y blawd sydd wedi’i sesno â halen a phupur.
  2. Ffriwch y cig yn y menyn dros wres canolig i uchel mewn padell ffrio fawr neu sgilet nes ei fod wedi brownio, gan ei droi’n gyson. Tynnwch y cig sydd wedi’i frownio a’i selio allan a’i roi mewn popty araf. DS: Mae gan rai poptai araf nodwedd sauté ar gyfer hyn.
  3. Ychwanegwch y winwns a’r moron at y cig yn y popty araf. Arllwyswch y stoc cig oen i mewn a’i sesno gyda mwy o halen a phupur os oes angen.
  4. Coginiwch ar Slow am 6 awr, neu coginiwch ar y nodwedd sosban bwysedd am 30 munud.
  5. Ychydig cyn i’r caserol orffen coginio, cynheswch y popty i 200˚C / ffan 180˚C / Nwy 6.
  6. I wneud y twmplenni sgons garlleg, ychwanegwch y siwed at y blawd ac yna ychwanegwch y llaeth enwyn yn ofalus ac yn araf iawn, gan gymysgu wrth wneud, nes bod y toes twmplen yn feddal ond heb fod yn rhy ludiog.
  7. Gwasgwch y gymysgedd sgon allan ar fwrdd â blawd arno a chreu siapiau sgons, neu gwnewch beli bach o’r toes sgon.
  8. Rhowch y caserol cig oen i mewn i ddysgl fawr sy’n dal gwres, a threfnwch y twmplenni sgons dros y caserol poeth. DS: Rhaid i’r caserol fod yn boeth o hyd fel bod ochr isaf y twmplenni sgons yn coginio oddi tano.
  9. Pobwch heb ei orchuddio am 20 i 25 munud neu nes bod y twmplenni sgons wedi codi a’u bod yn grystiog, yn grensiog ac yn frown euraidd.
  10. Gweinwch ar unwaith gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio a thatws stwnsh.

I’w goginio mewn popty arferol:

Rhowch y cig mewn dysgl gaserol sy’n dal gwres o faint addas. Ychwanegwch y llysiau, y stoc cig oen a’r sesnin, cymysgu’n dda, ei orchuddio â chaead a’i roi mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 170˚C / ffan 150˚C / Nwy 3 am 2 awr, neu nes bod y cig oen yn dyner.

Share This