facebook-pixel

Tortillas blawd pob gyda briwgig Cig Eidion Cymru sbeislyd

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
  • 300ml o passata
  • 400g o domatos tun wedi’u torri
  • 2 lwy de o bowdwr tsili
  • 1 courgette, wedi’i dorri’n giwbiau bach
  • 50g o fadarch, wedi’u sleisio
  • Pupur a halen
  • 8 tortilla blawd
  • 100g o gaws cheddar aeddfed, wedi’i gratio

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1755 KJ
  • Calorïau: 420 kcals
  • Braster: 17 g
  • Sy’n dirlenwi: 5 g
  • Halen: 1.5 g
  • Haearn: 2.3 mg

Dull

  1. Twymwch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Nwy 4.
  2. Twymwch ychydig o olew mewn padell fawr, ychwanegwch y briwgig, y winwns a’r garlleg, a’u ffrïo nes eu bod yn frown.
  3. Ychwanegwch y passatta, y tomatos, y powdwr tsili, y courgette, y madarch a’r halen a phupur.
  4. Mwynhewch yr arogl hyfryd a’i adael i fudferwi ar wres isel am ryw 10 munud.
  5. Cymrwch bob tortilla, rhowch lwyaid go dda o’r gymysgedd ar un ochr a’i wasgaru, cyn rholio’r cyfan.
  6. Rhowch y tortillas wedi’u llenwi yn daclus yn y ddysgl, eu gorchuddio â chaws a phobi am 15 munud nes bod y caws wedi toddi’n euraidd.
  7. Gweinwch gyda salad tymhorol, colslo a hufen sur.
Share This