facebook-pixel

Stiw brest Cig Oen Cymru gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 1kg brest Cig Oen Cymru PGI
  • 100g moron, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 100g seleri, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 100g winwns, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 sbrigyn o rosmari
  • 2 ddeilen llawryf
  • 3 ewin garlleg
  • 50g past tomato
  • 30g mêl
  • 40g ‘nduja
  • 100ml gwin gwyn
  • 20ml finegr gwin gwyn
  • 1l stoc llysiau neu gig oen
  • Pupur a halen
  • 30ml olew olewydd ifanc iawn

Dull

  1. Mewn sosban ddigon llydan, chwyswch y llysiau wedi’u torri’n giwbiau mân dros wres canolig gydag ychydig o olew olewydd a’r dail llawryf.
  2. Yn y cyfamser, torrwch y frest cig oen yn giwbiau mân a’i sesno â halen a phupur.
  3. Seriwch y cig oen mewn padell ffrio ar wres canolig/uchel gydag ychydig o olew olewydd a’r rhosmari.
  4. Torrwch hanner yr ewinedd garlleg yn fân a’u cymysgu i mewn i’r llysiau. Malwch weddill yr ewinedd garlleg ychydig a’u hychwanegu at y cig oen.
  5. Unwaith y bydd y cig oen wedi serio’n dda, tynnwch ef allan o’r badell a’i ychwanegu at y llysiau a’i ffrio am ychydig funudau.
  6. Arllwyswch y gwin gwyn i mewn a gadewch iddo dewychu’n llwyr.
  7. Ychwanegwch y ‘nduja, y past tomato, y finegr, y mêl, a hanner y stoc. Gadewch iddo fudferwi rhwng awr ac awr a hanner, gyda chaead, gan ychwanegu mwy o stoc wrth goginio os yw’n mynd yn rhy sych.
  8. Gwiriwch a yw’r cig yn frau a gwnewch yn siŵr nad yw’r saws yn rhy rhedegog nac yn rhy drwchus. Addaswch gyda halen a phupur os oes angen.
  9. Gweinwch gyda stwnsh pwmpen a cavolo nero neu datws stwnsh menynaidd.
Share This