facebook-pixel

Peli Cig Oen Cymru wedi’u llenwi â burrata gyda saws tomato a pesto basil gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 40 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 500g briwgig Cig Oen Cymru PGI
  • 30g persli
  • 80g caws Grana Padano PDO
  • 80g caws Pecorino Romano PDO
  • 250g caws Burrata di Andria PGI
  • 250g bara surdoes
  • 300ml llaeth
  • 2 ŵy
  • Pupur du
  • Halen

Ar gyfer y saws tomato

  • 1 winwnsyn mawr gwyn
  • 1 ewin garlleg
  • 1kg passata tomato
  • 10 deilen basil
  • Halen

Ar gyfer y pesto

  • 300g dail basil
  • 80ml olew olewydd ifanc iawn
  • 20g caws Pecorino Romano PDO
  • 20g caws Grana Padano PDO
  • ½ ewin garlleg
  • 20g cnau pîn
  • Halen

Dull

  1. I wneud y saws tomato, torrwch y winwnsyn a’r garlleg a’u chwysu mewn sosban gydag ychydig o olew olewydd ifanc iawn cyn ychwanegu’r passata. Sesnwch gyda halen a phupur ac ychwanegwch y dail basil. Mudferwch am ryw awr, gan ychwanegu ychydig o ddŵr os yw’n mynd yn rhy sych.
  2. Tra bod hwnnw’n mudferwi, cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn tun rhostio mawr. Sesnwch ysgwydd yr oen gyda halen a phupur a’i ffrio yn yr olew dros wres uchel, nes ei bod wedi’i serio’n braf drosti.
  3. Torrwch y bara yn ddarnau bach a’u socian yn y llaeth nes bod y cyfan wedi’i amsugno, yna gwasgwch unrhyw hylif gormodol allan â llaw.
  4. Rhowch y cig mewn powlen, ychwanegwch y bara a’i gymysgu’n drylwyr. Nawr ychwanegwch y Grana Padano, y Pecorino, y persli wedi’i dorri a’r wyau. Cymysgwch yn dda a’i sesno gyda halen a phupur.
  5. Siapiwch y gymysgedd i mewn i 12 pelen gig. Gwnewch ffynnon fach yng nghanol pob un, ac ychwanegwch lond llwy de o gaws Burrata a’u cau eto, gan ofalu eu bod wedi’u selio’n dda fel nad yw’r Burrata yn gollwng.
  6. I wneud y pesto, rhowch y dail basil mewn dŵr berwedig yn gyflym a’u hoeri mewn dŵr rhewllyd i’w hatal rhag coginio. Draeniwch a’u trosglwyddo i gymysgydd. Ychwanegwch yr holl gynhwysion pesto eraill a’u cymysgu yn y cymysgydd nes bod popeth wedi’i gyfuno’n dda. Sesnwch gyda halen.
  7. Ychwanegwch y peli cig at y saws tomato a gadewch iddyn nhw goginio’n drylwyr. Trosglwyddwch i ddysgl weini a gorffen y cyfan gyda llwyeidiau hael o pesto.
Share This