facebook-pixel

Ossobuco Cig Oen Cymru wedi’i frwysio gyda thatws stwnsh menynaidd gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 siancen Cig Oen Cymru PGI, wedi’u sleisio mewn arddull ossobuco
  • 100g moron, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 100g seleri, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 100g winwns, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 sbrigyn o rosmari
  • 3 sbrigyn o deim
  • 1 ddeilen llawryf
  • 50g past tomato
  • 1L gwin coch
  • 500ml stoc cyw iâr
  • Pupur a halen

Ar gyfer y tatws stwnsh

  • 400g tatws
  • 200ml llaeth, wedi’i dwymo’n ysgafn
  • 70g menyn
  • Halen
  • Nytmeg

I orffen

  • 30g persli, wedi’i dorri

Dull

  1. Sesnwch y cig oen gyda halen a phupur a’i serio mewn padell gydag olew olewydd ar wres canolig / uchel.
  2. Mewn sosban fawr, chwyswch y llysiau mân gydag ychydig o olew olewydd, ychwanegwch y cig oen a’i ffrio am gwpl o funudau. Arllwyswch y gwin coch i mewn a gadewch iddo dewychu nes ei fod hanner y trwch.
  3. Ychwanegwch y past tomato, y stoc cyw iâr a’r perlysiau a gadewch iddo fudferwi am ryw awr, wedi’i orchuddio â chaead.
  4. Ar ôl tua 30-40 munud, dechreuwch ferwi’r tatws a’u coginio nes eu bod yn feddal. Stwnsiwch nhw, gan ychwanegu llaeth poeth a menyn yn raddol a’u cymysgu’n egnïol nes bod y stwnsh yn hufennog ac yn ysgafn. Sesnwch gyda halen a nytmeg wedi’i falu’n ffres.
  5. Edrychwch ar y cig oen a gwnewch yn siŵr nad yw’r saws yn rhy rhedegog nac yn rhy drwchus.
  6. Rhowch y tatws stwnsh ar ochr dysgl weini, ychwanegwch yr ossobuco a’i saws ei hun a’i orffen gyda phersli wedi’i dorri’n ffres.
Share This