facebook-pixel

Risotto Cig Oen Cymru, berwr y dŵr a parmesan

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 225g stêcs coes Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi eu torri’n giwbiau bach
  • 1 llwy de olew olewydd
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fan
  • 150g reis risotto (Arborio)
  • 600ml stoc
  • Pupur du
  • 50g pys melys
  • 50g pys wedi rhewi
  • Dail berwr
  • Caws parmesan

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2458 KJ
  • Calorïau: 584 kcals
  • Braster: 20 g
  • Sy’n dirlenwi: 6.5 g
  • Halen: 1.6 g
  • Haearn: 3 mg

Dull

  1. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban a choginiwch y winwns a’r ciwbiau cig oen.
  2. Ychwanegwch y reis risotto a throwch yn dda.
  3. Ychwanegwch y stoc, a dewch a’r cyfan i’r berw, ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y reis wedi coginio a’r hylif i gyd wedi ei amsugno (gallwch ychwanegu ychydig mwy o stoc i gael y trwch y dymunwch).
  4. Yn ystod 5 munud olaf yr amser coginio, ychwanegwch y pys melys a’r pys wedi rhewi, cymysgwch gyda’i gilydd a choginio nes bod y pys melys yn dechrau meddalu.
  5. Ychwanegwch fwy o halen a phupur a gweinwch gyda llond llaw o ferwr a chaws Parmesan wedi ei ratio.
Share This