facebook-pixel

Potes Cig Oen Cymru a llysiau

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 400g ffiled gwddf Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau bychain
  • Halen a phupur
  • 1 llwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fras
  • 1 llwy fwrdd mintys ffres, wedi’i dorri’n fras
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 600ml stoc llysiau
  • 12 taten newydd, wedi’u sgwrio a’u haneru
  • 2 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
  • 3 moronen, wedi’u plicio a’u torri’n siapiau julienne
  • 75g ffa gwyrdd, wedi eu torri’n draeanau
  • 100g ffa llydan neu ffa soia wedi’u rhewi
  • 2 lwy fwrdd mintys ffres, wedi’i dorri’n fras
  • 2 lwy fwrdd pesto

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 887 KJ
  • Calorïau: 212 kcals
  • Braster: 10.8 g
  • Sy’n dirlenwi: 2.8 g
  • Halen: 1.28 g
  • Haearn: 1.53 mg

Dull

  1. Twymwch yr olew olewydd mewn padell fawr. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen a’u brownio. Ychwanegwch y stoc llysiau a’r tatws newydd, y garlleg a’r moron.
  2. Mudferwch y rhain am 30-40 munud, yna ychwanegwch y ffa gwyrdd, y ffa llydan a’r mintys ffres. Gwthiwch y mintys o dan yr wyneb a choginio’r cyfan am ryw 10 munud, nes bo’r ffa gwyrdd yn frau.
  3. Gweinwch mewn dysglau a thaenwch lond llwy fechan o besto gwyrdd dros y top. Yna gwasgarwch ddail mintys ffres drostyn nhw a’u gweini gyda darnau mawr o fara brown garw.
Share This