facebook-pixel

Pastai stêc Cig Eidion Cymru a chwrw

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 900g (neu 2 x pecyn 450g) stêc balfais neu stêc stiwio Cig Eidion Cymru PGI wedi’i dorri’n giwbiau bach ymlaen llaw
  • 25g blawd
  • Pupur a halen
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 25g menyn
  • 2 winwnsyn mawr, wedi’u torri’n fras
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • 150g madarch castan, wedi’u chwarteru
  • 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • 1 ddeilen llawryf
  • 500ml cwrw
  • 400ml stoc cig eidion
  • Llond llaw o berlysiau ffres e.e. teim, persli, oregano
  • 1 pecyn o grwst pwff neu grwst brau
  • 1 ŵy, wedi’i guro

Dull

  1. Sesnwch y blawd a’i ddefnyddio i orchuddio’r cig eidion.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio’r cig eidion mewn 2 swp nes ei fod yn frown. Tynnwch allan o’r badell.
  3. Ychwanegwch y menyn, y garlleg, y winwns a’r madarch i’r badell a’u ffrio am ychydig funudau. Dychwelwch y cig eidion i’r badell.
  4. Ychwanegwch y purée tomato, saws Worcestershire, cwrw, stoc, deilen llawryf a pherlysiau. Trowch yn dda a dod â’r cyfan i’r berw.
  5. Mudferwch y cyfan ar wres isel am awr a hanner nes bod y cig yn frau (tewychwch os oes angen). Tynnwch y caead a gadael iddo oeri ychydig.
  6. Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
  7. Rhowch gymysgedd y llenwad i mewn yn y ddysgl bastai.
  8. Rholiwch y crwst allan ar gyfer top y bastai. Torrwch 4 stribed tenau hir o ymyl y crwst. Brwsiwch ymyl y ddysgl gyda’r ŵy wedi’i guro. Defnyddiwch y stribedi i’w gosod o amgylch ymyl y ddysgl bastai, a’u brwsio ag ŵy.
  9. Rhowch y crwst dros y llenwad a’r stribedi’n ysgafn. Tociwch unrhyw grwst sy’n hongian dros yr ymyl.
  10. Gwasgwch a chrimpiwch yr ymylon a defnyddiwch unrhyw grwst sy’n weddill i addurno top y bastai.
  11. Brwsiwch gyda’r ŵy wedi’i guro a’i roi yn y popty. Pobwch am ryw 25-30 munud nes bod y top yn frown euraidd a bod y llenwad yn chwilboeth.
Share This