facebook-pixel

Bourguignon Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 3 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 900g palfais, brisged neu ystlys las Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi ei dorri’n dalpiau mawr
  • Pupur a halen
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri
  • 3 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 1 foronen fawr, wedi ei thorri’n giwbiau bychain
  • Bouquet garni (wedi ei wneud drwy glymu sbrigynnau ffres o rosmari, teim a dail bae gyda’i gilydd)
  • 2 lwy de purée tomato
  • 300ml gwin coch
  • 300ml stoc cig eidion
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 200g madarch bychain
  • 150g stribedi o gig moch wedi ei fygu
  • 24 sialotsyn cyfan, wedi eu plicio
  • 1 llwy fwrdd blawd corn, wedi ei gymysgu mewn ychydig o ddŵr

Dull

  1. Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew mewn padell fawr, ddofn. Sesnwch y cig a’i ffrio mewn dau swp tan ei fod yn lliw brown dwfn. Tynnwch y cig allan o’r badell.
  2. Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r foronen a’u ffrio am funud neu ddau.
  3. Rhowch y cig yn ôl yn y badell ac ychwanegu’r purée tomato, y gwin coch, y stoc a’r bouquet garni. Berwch y cyfan, rhoi caead ar y badell a mudferwi ar wres isel am 2 awr.
  4. Cynheswch lwy fwrdd o olew mewn padell, ychwanegwch y cig moch a’i ffrio nes ei fod yn grimp. Ychwanegwch y madarch a’r sialóts a’u brownio’n ysgafn, cyn eu hychwanegu at y bourguignon. Gorchuddiwch a choginiwch am 45 munud arall. Ychwanegwch ragor o stoc os oes angen.
  5. Cyn gweini, gwnewch yr hylif yn fwy trwchus gyda blawd corn a’i ferwi am 5 munud.
  6. Gweinwch gyda bara Ffrengig crystiog neu datws stwnsh.

Awgrym: Gellir coginio’r bourguignon ar y hob, yn y ffwrn neu mewn popty araf hefyd.

Share This