facebook-pixel

Pastai enchilada brisged wedi ei rwygo Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 150g sbarion brisged wedi ei rwygo neu ddarn o Gig Eidion Cymru PGI, wedi ei sleisio’n denau
  • 4-5 tortilla blawd canolig
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 pupur coch, wedi ei sleisio’n denau
  • 1 pupur melyn, wedi ei sleisio’n denau
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei sleisio
  • 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
  • 2 lwy fwrdd sesnin sbeis fajita
  • 250g passata
  • 1 tun bychan o ffa wedi eu hail-ffrio
  • 150g caws, wedi ei ratio (cadwch 100g ar gyfer yr haenen uchaf)

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 5.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y llysiau a’u ffrio am funud neu ddau nes eu bod yn dechrau brownio.
  3. Ychwanegwch y sesnin fajita a ffrio am funud.
  4. Mewn powlen, cymysgwch y ffa a’r passata gyda’i gilydd yn dda.
  5. Taenwch y tortillas allan ar hambwrdd pobi a’u rhoi’n y ffwrn am 3 munud, i’w crimpio ychydig. Gofalwch rhag eu gor-frownio. Tynnwch nhw allan o’r ffwrn.
  6. Irwch waelod ac ochrau tun â sbring 20cm neu ddysgl bopty gron yn ysgafn.
  7. I roi’r bastai at ei gilydd, rhowch un o’r tortillas yng ngwaelod y ddysgl, taenwch lond llwy o’r gymysgedd tomato, rhoi llond llaw o gig eidion, llysiau ac ychydig o gaws ar ei phen, yna rhowch tortilla arall ar ben y cyfan a pharhau gyda’r broses tan i chi orffen gyda’r tortilla olaf ar y top.
  8. Ysgeintiwch weddill y caws ar y top a rhoi’r cyfan yn y ffwrn am ryw 25 munud tan ei fod yn chwilboeth a’r caws wedi ffurfio arwyneb cras.
  9. Ysgeintiwch shibwns ar y top a gweini’r cyfan gyda salad gwyrdd.
Share This