facebook-pixel

Brechdan Cig Eidion Cymru lwythog gyda mayonnaise radish poeth

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • Cynhwysion fesul brechdan
  • Cig Eidion Cymru PGI poeth neu oer wedi’i sleisio
  • 1 winwnsyn coch bach, wedi’i sleisio’n denau
  • Ychydig o olew i ffrïo
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd o saws radish poeth
  • 1 llwy fwrdd o mayonnaise
  • 2 dafell o fara wedi’i sleisio’n drwchus
  • Menyn (dewisol)

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2346 KJ
  • Calorïau: 556 kcals
  • Braster: 19 g
  • Sy’n dirlenwi: 3.4 g
  • Halen: 1.6 g
  • Haearn: 5 mg
  • Sinc: 6.7 mg
  • Protein: 42 g
  • Ffeibr: 5.1 g
  • Carbohydradau: 58 g
  • Sy’n siwgro: 13 g

Dull

  1. Ffriwch y sleisiau o winwnsyn mewn ychydig o olew hyd neu eu bod yn feddal ac yn frown.
  2. Cymysgwch y saws radish poeth a’r mayonnaise
  3. Tostiwch y bara neu ei osod ar radell, rhowch fenyn arno os dymunwch.
  4. Cydosodwch y frechdan trwy daenu’r mayonnaiseradish poeth dros y ddwy dafell o fara, llwythwch y cig eidion a’r winwns/nionod ar ben un dafell, ychwanegwch bupur a halen, a rhowch y dafell arall ar ei ben.
Share This